Isaiah 27
Achub Israel
1Bryd hynny bydd yr Arglwyddyn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,
gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur –
Lefiathan, y neidr droellog;
a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr. ▼
▼27:1 Lefiathan … môr Roedd y bwystfilod mytholegol yma yn cynrychioli grymoedd anhrefn, a'r cenhedloedd oedd yn gormesu Israel.
,
b2Bryd hynny byddwch yn canu'r gân "Y Winllan Hyfryd": 3Fi, yr Arglwydd, sy'n gofalu amdani,
ac yn ei dyfrio hi bob amser.
Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,
rhag i rywun wneud niwed iddi.
4Dw i ddim yn ddig bellach:
Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,
byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,
ac yn eu llosgi nhw'n ulw.
5Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,
rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;
ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.
6Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,
ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –
bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.
7Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?
Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?
8Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.
Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf
ar ddydd y storm.
9Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,
a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:
Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd
fel petaen nhw'n garreg galch –
a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth
wedi eu torri i gyd.
10Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag;
cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith.
Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr
ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
11Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri;
ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.
Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;
felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,
doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
12Bryd hynny, bydd yr Arglwydd yn ysgwyd y goeden, o Afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! 13Bryd hynny, bydd y corn hwrdd ▼
▼27:13 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r Arglwydd ar y mynydd cysegredig, ▼▼27:13 mynydd cysegredig gw. 2:3.
yn Jerwsalem.
Copyright information for
CYM