bEseia 47:1-15; Jeremeia 50:1—51:64
Isaiah 13
Negeseuon am y gwledydd ▼▼13:0 Mae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1-2; Jeremeia 46-51; Eseciel 25-32. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.
Bydd Babilon yn cael ei chosbi
1Y neges gafodd Eseia fab Amos am Babilon b 2“Codwch faner ar ben mynydd,a gweiddi'n uchel arnyn nhw!
Codwch eich llaw i'w galw
i mewn drwy giatiau'r bobl fawr!
3Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis,
a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i;
milwyr balch sy'n brolio.”
4Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd –
fel byddin enfawr;
Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd!
Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd!
Mae'r Arglwydd holl-bwerus
yn casglu byddin i ryfel!
5Maen nhw'n dod o wlad bell,
y tu hwnt i'r gorwel –
yr Arglwydd ac arfau ei lid,
yn dod i ddinistrio'r holl dir!
6Udwch!
Mae dydd barn yr Arglwydd yn agos! c
Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
7Felly, bydd pob llaw yn llipa,
a phawb wedi digalonni
8a'u llethu gan ddychryn.
Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
a byddan nhw'n gwingo mewn poen
fel gwraig yn cael babi.
Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,
a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
9Ydy! Mae dydd barn yr Arglwydd yn dod;
dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,
i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,
a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
10Fydd y sêr a'u clystyrau
ddim yn rhoi golau.
Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi,
a'r lleuad ddim yn llewyrchu.
11“Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni,
a phobl ddrwg am eu pechod.
Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug,
ac yn torri crib y rhai creulon.
12Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –
yn fwy prin nag aur Offir. ▼
▼13:12 Offir Does dim sicrwydd ble roedd Offir. Affrica neu India falle. Roedd aur Offir yn cael ei ystyried fel yr aur gorau.
13Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu,
ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.”
Mae'r Arglwydd holl-bwerus yn barnu
ar ddiwrnod ei lid ffyrnig.
14Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun
ac yn dianc i'w gynefin;
fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela,
neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.
15Bydd pawb sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu,
a phawb sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.
16Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,
a'u lladd o flaen eu llygaid;
eu cartrefi'n cael eu gwagio,
a'u gwragedd yn cael eu treisio.
17“Ond edrychwch,
dw i'n codi'r Mediaid ▼
▼13:17 Mediaid Pobl o'r ardal i'r gogledd-ddwyrain o Babilon. Daethon nhw'n rhan o Ymerodraeth Persia.
yn eu herbyn nhw.Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny,
nac aur yn eu denu i droi.
18Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr.
Fydd dim tosturi at fabis bach,
a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”
19Bydd Babilon, y deyrnas harddaf
– ysblander a balchder ei phobl –
wedi ei bwrw i lawr gan Dduw
fel Sodom a Gomorra. f
20Fydd neb yn byw yno byth eto;
neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –
dim bedowin yn codi ei babell,
na bugail yn gorffwys ei braidd.
21Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,
a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.
Bydd y dylluan yn byw yno,
a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas. g
22Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion,
a siacaliaid yn ei phlastai.
Mae ei hamser bron ar ben;
fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.
Copyright information for
CYM