Isaiah 1
1Gweledigaeth Eseia fab Amos. (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.) 2 Brenhinoedd 15:1-7; 15:32—16:20; 18:1—20:21; 2 Cronicl 26:1—32:33 1:1 frenhinoedd Jwda Wseia (783–742 CC ); Jotham (742–735 CC ); Ahas (735–715 CC ); Heseceia (715–687 CC ). Gwlad euog 2Gwranda nefoedd! Clyw ddaear!
Mae'r Arglwydd yn dweud:
“Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw –
ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
3Mae ychen yn nabod ei berchennog
ac asyn yn gwybod ble mae cafn bwydo ei feistr:
ond dydy Israel ddim yn fy nabod i;
dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”
4O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu!
Pobl sy'n llawn drygioni!
Nythaid o rai sy'n gwneud drwg!
Plant pwdr!
Maen nhw wedi troi cefn ar yr Arglwydd,
A dirmygu Un Sanctaidd Israel,
Maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
5Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela?
Ydych chi eisiau cael eich curo eto?
Mae briwiau ar bob pen
a'r corff yn hollol wan.
6Does unman yn iach
o'r corun i'r sawdl:
Dim ond clwyfau a chleisiau,
a briwiau agored –
Heb eu gwella na'u rhwymo,
ac heb olew i'w hesmwytho.
7Mae eich gwlad fel anialwch,
a'ch dinasoedd wedi eu llosgi'n ulw;
Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau
o flaen eich llygaid –
Anialwch wedi ei ddinistrio gan estroniaid!
8Dim ond Seion hardd sydd ar ôl –
fel caban yng nghanol gwinllan,
neu gwt mewn gardd lysiau;
fel dinas yn cael ei gwarchae.
9Oni bai fod yr Arglwydd holl-bwerus
wedi gadael i rai pobl fyw,
bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,
neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra. ▼
▼1:9 Sodom … Gomorra Dwy ddinas hynafol gafodd eu dinistrio gan Dduw am fod eu pobl mor ddrwg (gw. Genesis 19:1-29).
10Gwrandwch ar neges yr Arglwydd,
arweinwyr Sodom!
Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,
bobl Gomorra!
11“Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” b
meddai'r Arglwydd.
“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi,
o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.
Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi.
12Dych chi'n ymddangos o'm blaen i –
Ond pwy ofynnodd i chi ddod
i stompio drwy'r deml?
13Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr!
Mae'r arogldarth yn troi arna i!
Dych chi'n dathlu Gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau,
ac yn cynnal cyfarfodydd eraill,
Ond alla i ddim diodde'r drygioni
sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
14Dw i'n casáu'r lleuadau newydd
a'ch gwyliau eraill chi.
Maen nhw'n faich arna i;
alla i mo'i diodde nhw.
15Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo,
bydda i'n edrych i ffwrdd.
Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi,
ond fydda i ddim yn gwrando.
Mae gwaed ar eich dwylo chi!
16Ymolchwch! Byddwch yn lân!
Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud
allan o'm golwg i!
Stopiwch wneud drwg;
17Dysgwch wneud da.
Brwydrwch dros gyfiawnder;
o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Cefnogwch hawliau plant amddifad,
a dadlau dros achos y weddw.
18Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”
—meddai'r Arglwydd.
“Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar,
gallan nhw droi'n wyn fel yr eira;
Os ydyn nhw'n goch tywyll,
gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
19Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud,
cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
20Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,
byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,”
—mae'r Arglwydd wedi dweud.
Y ddinas ddrwg
21Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain.Roedd hi'n ddinas ffyddlon,
yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.
Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –
ond bellach llofruddion.
22Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd;
mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr!
23Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,
ac yn ffrindiau i ladron;
Maen nhw i gyd yn hoffi breib,
Ac yn chwilio am wobr.
Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad
na gwrando ar achos y weddw.
24Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud
(yr Arglwydd holl-bwerus),
Arwr Israel! –
“O! bydda i'n dangos fy nig i'r rhai sy'n fy erbyn!
Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
25Bydda i'n ymosod arnat
ac yn symud dy amhuredd â thoddydd.
Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!
26Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen,
a cynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm.
Wedyn byddi di'n cael dy alw
‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”
27Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad;
a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.
28Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru;
Bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr Arglwydd.
29Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig
oeddech chi mor hoff ohonyn nhw.
Byddwch chi wedi drysu o achos
y gerddi paganaidd ▼
▼1:29 gerddi paganaidd Roedd pobl yn credu fod cysegru gardd i dduw ffrwythlondeb yn sicrhau cnydau da.
oeddech wedi eu dewis.30Byddwch fel coeden dderwen
â'i dail wedi gwywo,
neu fel gardd sydd heb ddŵr.
31Bydd y rhai cryf fel fflwff,
a'u gwaith fel gwreichionen.
Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd,
a neb yn gallu diffodd y tân!
Copyright information for
CYM