Hosea 9
Addoliad paganaidd Israel
1O Israel, stopia ddathlu a gweiddi'n llawen fel y paganiaid;ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.
Ti'n hoffi derbyn cyflog putain
wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!
2Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,
a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.
Y gaethglud yn gwrthdroi'r exodus
3Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr Arglwydd.Bydd Effraim ▼
▼9:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
yn mynd yn ôl i'r Aifft,ac yn bwyta bwyd aflan ▼
▼9:3 bwyd aflan roedd Cyfraith Moses yn gwahardd bwyta rhai pethau am eu bod yn ‛aflan‛ (gw. Lefiticus 11).
yn Asyria.4Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r Arglwydd,
nac offrymu aberthau iddo.
Bydd yr aberthau'n aflan,
fel bwyd pobl sy'n galaru;
bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru.
Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig;
fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr Arglwydd.
5Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl –
sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r Arglwydd? ▼
▼9:5 Dydd Gŵyl yr Arglwydd Gŵyl y Pebyll mae'n debyg.
6Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr,
bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw,
a Memffis ▼
▼9:6 Memffis Dinas yn yr Aifft.
yn eu claddu nhw.Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau
a mieri'n meddiannu eu tai.
7Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd! e
Mae dydd y farn wedi dod!
Mae'n bryd i Israel wybod!
Israel yn gwrthod neges y proffwyd
“Mae'r proffwyd yn hurt!Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!”
Ti wedi pechu gymaint,
ac mor llawn casineb!
8Mae'r proffwyd yn wyliwr
dros Effraim ar ran Duw.
Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau;
a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.
9Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth,
fel digwyddodd yn Gibea gynt. ▼
▼9:9 Gibea gynt gw. Barnwyr 19
Bydd Duw yn delio gyda'u drygioni
ac yn eu cosbi am eu pechodau.
10Roedd darganfod Israel
fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch.
I mi, roedd dy hynafiaid
fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys.
Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor,
a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus g –
cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd
â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
Y gosb i ddod
11“Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth! 12Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw! 13Roeddwn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi ei phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.” 14Rho iddyn nhw, Arglwydd – Ond beth roi di iddyn nhw? – Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu! 15“Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, ▼▼9:15 Gilgal gw. 4:15.
dw i'n eu casáu nhw.
Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir
o achos eu holl ddrygioni.
Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;
mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.
16Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed –
mae'r gwreiddyn wedi sychu;
a does dim ffrwyth yn tyfu.
A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant,
byddwn i'n lladd eu babis bach del!”
17Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw
am beidio gwrando arno;
ac yn gwneud iddyn nhw grwydro
ar goll ymhlith y cenhedloedd!
Copyright information for
CYM