Hosea 6
Y bobl yn esgus troi at Dduw
1“Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr Arglwydd. Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu!Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
2Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;
bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd. ▼
▼6:2 mewn ychydig Hebraeg, “ar ôl deuddydd”; mewn dim o bryd Hebraeg, “ar y trydydd dydd”
Cawn fyw yn ei gwmni, 3a'i nabod yn iawn.
Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr Arglwydd.
Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.
Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
4O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? ▼
▼6:4 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?
Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,
neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
5Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro.
Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.
Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
6Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! c
Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
7Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!
Maen nhw wedi fy mradychu i!
8Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,
ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,
yn cuddio i ymosod ar bobl –
yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.
Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
10Dw i wedi gweld pobl Israel
yn gwneud pethau cwbl ffiaidd!
Mae Effraim yn puteinio –
mae Israel wedi ei llygru'n llwyr!
Petai Israel yn troi cefn ar ei phechod
11Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;
Copyright information for
CYM