1Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, 2dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw eu hunain. 3Yna dyma'r Arglwydd yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” 4Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.5Roedd yr Arglwydd yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser. 6Roedd yr Arglwydd yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a'i ddigio. 7Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi ei chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi eu creu nhw yn y lle cyntaf.”8Ond roedd Noa wedi plesio'r Arglwydd.
Noa
9Dyma hanes Noa a'i deulu: Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. 10Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth.11Roedd y byd wedi ei sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman. 12Gwelodd Duw fod y byd wedi ei sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg.13Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw. 14Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi ei gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â pyg. 15Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder. 16Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, a thri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf. 17Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear fydd yn boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. 18Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig a'u gwragedd nhw.19“Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i mewn i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw. 20Pob math o adar, pob math o anifeiliaid, pob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw. 21Dos â phob math o fwyd gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.”22A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?