1Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi creu plentyn, gyda help yr Arglwydd.” 2Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel. Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. 3Adeg y cynhaeaf daeth Cain â peth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r Arglwydd. 4Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r Arglwydd, 5ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb! 6Dyma'r Arglwydd yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn dy fod ti wedi gwylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? 7Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”8Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” ▼
▼4:8 Yn ôl y Fersiynau. Hebraeg heb “Gad … gwlad.”
Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd. 9Wedyn dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” 10A dyma'r Arglwydd yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd. 11Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. 12Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”13Ac meddai Cain wrth yr Arglwydd, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd! 14Rwyt ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd i.”15Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r Arglwydd yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo. 16Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr Arglwydd a mynd i fyw i wlad Nod ▼
17Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab. 18Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwia-el, Mechwia-el yn dad i Methwsha-el, a Methwsha-el yn dad i Lamech.19Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. 20Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. 21Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt. 22Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naäma.23Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd: “Ada a Sila, gwrandwch arna i! Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud: Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i, neu blentyn am fy nharo i. 24Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth, bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!” 25Dyma Adda'n cysgu gyda'i wraig eto, a dyma hi'n cael mab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi ▼
▼4:25 Mae'r gair Hebraeg am ‛rhoi‛ yn debyg i'r enw Seth
plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”26Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyma pryd y dechreuodd pobl addoli'r Arglwydd.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?