‏ Genesis 3

Y dyn a'i wraig yn pechu

1Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall oedd yr Arglwydd Dduw wedi eu creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” 2“Na,” meddai'r wraig wrth y neidr, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. 3Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a peidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” 4Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. 5Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”

6Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd. 7Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.

8Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr Arglwydd Dduw yn mynd trwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr Arglwydd Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. 9Ond galwodd yr Arglwydd Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble rwyt ti?” 10Atebodd y dyn, “Roeddwn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.” 11“Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” 12Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.” 13Yna gofynnodd yr Arglwydd Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”

Duw yn cyhoeddi'r farn

14Dyma'r Arglwydd Dduw yn dweud wrth y neidr:

“Melltith arnat ti am wneud hyn!
Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.
Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol
ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
15Byddi di a'r wraig yn elynion.
Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion.
Bydd e'n sathru dy ben di,
a byddi di'n taro ei sawdl e.”

16A dyma fe'n dweud wrth y wraig:

“Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti;
byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn.
Byddi di eisiau dy ŵr,
ond bydd e fel meistr arnat ti.”

17Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda:

“Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig
a bwyta ffrwyth y goeden roeddwn wedi dweud amdani,
‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’
Felly mae'r ddaear wedi ei melltithio o dy achos di.
Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.
18Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir,
a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau.
19Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw,
hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd.
Dyna o lle y daethost ti.
Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.”

20Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa
3:20 Ystyr Efa yn Hebraeg ydy ‛yr un fyw‛ neu ‛yr un sy'n rhoi bywyd‛
i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.

21Wedyn dyma'r Arglwydd Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo.

22A dyma'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.” 23Felly dyma'r Arglwydd Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono. 24Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw geriwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.

Copyright information for CYM