‏ Ezra 10

Y bobl yn cyffesu eu bod wedi pechu

1Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo. 2A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra:

“Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl. 3Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud. 4Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.”

5Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau. 6Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon.

7Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem. 8Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

9Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis
10:9 nawfed mis Cislef, sef nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr.
). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr Arglwydd. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw.

10Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw! 11Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r Arglwydd, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.”

12A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud! 13Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth. 14Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.” 15(Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.)

16Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis.
10:16 degfed mis Tebeth, sef degfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Rhagfyr i ganol Ionawr.
17Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn
10:17 flwyddyn Hebraeg, “mis cyntaf”, sef Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan). Mis cyntaf y calendr Hebreig sy'n rhedeg o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd.

Y dynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd

Offeiriaid

18Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd:

O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia. 19(Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai. d)
20O deulu Immer: Chanani a Sebadeia
21O deulu Charîm: Maaseia, Elïa, Shemaia, Iechiel ac Wseia.
22O deulu Pashchwr: Elioenai, Maaseia, Ishmael, Nethanel, Iosafad, ac Elasa.

Lefiaid

23O'r Lefiaid: Iosafad, Shimei, Celaia (sef Celita), Pethacheia, Jwda ac Elieser.

Cantorion

24O'r cantorion: Eliashif.

Gofalwyr y giatiau

O'r rhai oedd yn gofalu am y giatiau: Shalwm, Telem ac Wri.

Pobl eraill

25Yna pobl gyffredin Israel:

O deulu Parosh: Rameia, Iesïa, Malcîa, Miamin, Eleasar, Malcîa a Benaia.
26O deulu Elam: Mataneia, Sechareia, Iechiel, Afdi, Ieremoth ac Elïa.
27O deulu Sattw: Elioenai, Eliashif, Mataneia, Ieremoth, Safad ac Asisa.
28O deulu Bebai: Iehochanan, Chananeia, Sabbai, ac Athlai.
29O deulu Bani: Meshwlam, Malŵch, Adaia, Iashŵf, Sheal ac Ieremoth.
30O deulu Pachath-Moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Betsalel, Binnŵi a Manasse.
31O deulu Charîm: Elieser, Ishïa, Malcîa, Shemaia, Simeon, 32Benjamin, Malŵch, a Shemareia.
33O deulu Chashŵm: Matenai, Matata, Safad, Eliffelet, Ieremai, Manasse a Shimei.
34O deulu Bani: Maadai, Amram, Ŵel, 35Benaia, Bedeia, Celwhw, 36Faneia, Meremoth, Eliashif, 37Mataneia, Matenai, a Iaäsai.
38O deulu Binnŵi: Shimei, 39Shelemeia, Nathan, Adaia, 40Machnadebai, Shashai, Sharai, 41Asarel, Shelemeia, Shemareia, 42Shalwm, Amareia, a Joseff.
43O deulu Nebo: Jeiel, Matitheia, Safad, Sefina, Iadai, Joel a Benaia.

44Roedd y rhain i gyd wedi cymryd gwragedd paganaidd, ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael plant gyda'r gwragedd hynny.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.