‏ Ezekiel 44

Giât y Dwyrain ar gau

1Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi ei chau. 2A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi ei chau. Does neb yn cael mynd trwyddi. Mae'r Arglwydd, Duw Israel, wedi mynd trwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau. 3Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr Arglwydd. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.”

Rheolau mynediad i'r Deml

4Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld ysblander yr Arglwydd yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. 5Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr Arglwydd. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr. 6Dywed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell! 7Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. a Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi – sef y brasder a'r gwaed – iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma. 8Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma! 9Felly dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto.

Y Lefiaid fuodd yn anufudd

10“‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod. 11Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl. 12Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a pechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 13Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi ei gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd trwy'r holl ddefodau ffiaidd yna. 14Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi.

Yr offeiriaid o lwyth Lefi

15“‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno brasder a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd. 16“‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau.

17“‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun. 18Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu. 19Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd.

20“‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir. 21Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol. b 22Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen. c 23Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân. d

24“‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu. e

25“‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer. f 26Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall 27cyn mynd i mewn i'r cysegr. A pan fydd yn mynd i'r iard fewnol i wasanaethu yn y cysegr eto, bydd rhaid iddo gyflwyno offrwm i lanhau o bechod,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

28“‘Fydd gan offeiriaid ddim tir nag eiddo. Fi ydy eu hunig etifeddiaeth nhw. 29Yr offrymau fydd eu bwyd nhw – sef yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai, a beth bynnag arall sy'n cael ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. 30A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr Arglwydd yn bendithio eich cartrefi. g 31Dydy'r offeiriaid ddim i fwyta unrhyw aderyn neu anifail sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. h

Copyright information for CYM