‏ Ezekiel 39

Cwymp Gog

1“Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal! 2Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel. 3Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith. 4Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion. 5Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r Arglwydd, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. 6Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo eu bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd. 7Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd, Un Sanctaidd Israel.

8“‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano. 9Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd – y tariannau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon – byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd! 10Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio y bobl oedd wedi eu rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

Claddu Gog

11“‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr – yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi eu claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen. 12Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'i claddu nhw i gyd. 13Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel.

14“‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi eu gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi ei lanhau'n gyfan gwbl. 15Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog. 16(Bydd tref o'r enw Hamona yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau y tir.’

17“A ti, ddyn, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed. 18Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan. 19Byddwch yn stwffio eich hunain ar frasder, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi ei pharatoi i chi. 20Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

Adfer Israel

21“‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i. 22O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r Arglwydd eu Duw nhw. 23Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi eu cymryd yn gaeth am bechu trwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw. 24Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’

25“Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd. 26Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw. 27Bydda i'n dangos mor wych ydw i trwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion. 28Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl. 29Fydda i ddim yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw byth eto. Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar bobl Israel.’” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.