‏ Ezekiel 16

Jerwsalem fel gwraig anffyddlon

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti wneud i Jerwsalem wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau ffiaidd. 3Dywed fel hyn, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud wrth Jerwsalem: I'r Canaaneaid paganaidd rwyt ti'n perthyn go iawn! Ti wedi dy eni a dy fagu gyda nhw! Roedd dy dad yn Amoriad a dy fam yn Hethiad.
16:3 Amoriaid … Hethiad Y rhai oedd yn byw yn Canaan cyn pobl Israel.
4Pan gest ti dy eni gafodd dy linyn bogail mo'i dorri. Wnaeth neb dy olchi, rhwbio halen ar dy gorff, na lapio cadachau geni amdanat ti. 5Doedd neb yn poeni amdanat ti; neb yn teimlo trueni drosot ti. Cest dy daflu allan i farw. Doedd gan neb dy eisiau di.

6“‘Yna dyma fi'n dod heibio ac yn dy weld di'n gorwedd ar lawr yn cicio. Ac wrth i ti orwedd yna yn dy waed, dyma fi'n dweud, “Rhaid i ti fyw!” 7Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti yn tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth.

8“‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti.’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

9“‘Dyma fi'n dy olchi di gyda dŵr, golchi'r gwaed i ffwrdd, a rhwbio olew persawrus drosot ti. 10Rhoddais fantell hardd wedi ei brodio a sandalau lledr i ti eu gwisgo; a ddillad costus o liain main drud a sidan. 11Rhoddais dlysau a gemwaith i ti – breichledau ar dy fraich a chadwyn am dy wddf, 12modrwy i dy drwyn, clustdlysau, a choron hardd ar dy ben. 13Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi ei frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines! 14Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

15“‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di. 16Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel! 17A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i. 18Wedyn cymryd y defnydd wedi ei frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw. 19Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi ei roi i ti – bwyd hyfryd oedd wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

20“‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon? 21Oedd rhaid i ti ladd fy mhlant i hefyd, a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau paganaidd? 22Ac yng nghanol y puteinio a'r holl bethau ffiaidd yma roeddet ti'n eu gwneud, wnest ti ddim meddwl am funud beth oedd wedi digwydd pan oeddet ti'n fabi bach newydd dy eni, yn gorwedd yn dy waed yn noeth ac yn cicio.

Jerwsalem y butain

23“‘Gwae ti!’ Dyna ydy neges y Meistr, yr Arglwydd. ‘Ar ben yr holl ddrwg yma 24ti wedi codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd! 25Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio! 26Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân. 27Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed!

28“‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd! 29A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith.

30“‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain 31yn codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd. Ond yn wahanol i buteiniaid eraill, doeddet ti ddim yn derbyn unrhyw dâl!

32“‘Gwraig anffyddlon wyt ti! Mae'n well gen ti roi dy hun i ddynion eraill nac i dy ŵr dy hun! 33Mae puteiniaid go iawn yn codi arian am eu gwasanaeth, ond dim ti! Na, rwyt ti'n rhoi anrhegion i dy gariadon ac yn cynnig tâl er mwyn eu perswadio nhw i ddod o bob cyfeiriad i dy gymryd di! 34Ti ddim byd tebyg i'r puteiniaid sy'n cael eu talu am ryw. Does neb wir dy eisiau di! Dwyt ti ddim yn cael dy dalu; rhaid i ti dalu iddyn nhw! Mae'r peth yn hollol groes i'r arfer!

Barn Duw ar Jerwsalem

35“‘Felly, gwrando ar neges yr Arglwydd i ti, butain – 36Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Rwyt ti wedi tywallt dy haelioni rhywiol yn ddi-stop, a tynnu dy ddillad i ddangos popeth i dy gariadon. Ti wedi mynd ar ôl eilun-dduwiau ffiaidd, ac wedi lladd dy blant a'i haberthu iddyn nhw. 37Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd – y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat. 38Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd (sef beth mae gwragedd sydd wedi godinebu neu lofruddio yn ei haeddu), yn tywallt fy nigofaint ac yn gweinyddu'r gosb eithaf. 39Bydda i'n gadael i dy gariadon ddinistrio dy allorau di, a bwrw i lawr dy stondin. Byddan nhw'n rhwygo dy ddillad oddi arnat, yn dwyn y gemwaith hardd sydd gen ti, ac yn dy adael di'n noeth. 40Byddan nhw'n galw'r mob i ymosod arnat ti drwy daflu cerrig, dy hacio di'n ddarnau gyda chleddyfau 41a llosgi dy dai. Bydd llawer o wragedd eraill yn gwylio hyn i gyd yn digwydd i ti. Dw i'n mynd i roi stop ar dy buteinio di! Fyddi di byth yn talu rhywun i ddod atat ti eto.

42“‘Ar ôl gwneud hynny bydda i'n gallu ymatal, a gadael llonydd i ti. Bydda i'n gallu bod yn dawel. Fydd dim rhaid gwylltio ddim mwy.

43“‘Am dy fod wedi anghofio'r dyddiau cynnar hynny, ac wedi fy ngwylltio i'n lân drwy ymddwyn fel gwnest ti, dw i'n mynd i dalu yn ôl i ti,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

Fel y fam y bydd y ferch

“‘Ti wedi ymddwyn yn hollol ffiaidd, a hynny ar ben yr holl bethau anweddus eraill ti wedi eu gwneud!
44Y dywediad mae pobl yn ei ddefnyddio wrth sôn amdanat ti, ydy: “Fel y fam y bydd y ferch.” 45Ti'n union fel dy fam! Roedd hithau'n casáu ei gŵr a'i phlant. Ac roedd dy chwiorydd yr un fath. Hethiad oedd eich mam chi, ac Amoriad oedd eich tad! 46Dy chwaer fawr di oedd Samaria, yn byw i'r gogledd gyda'i merched. A dy chwaer fach di oedd Sodom, yn byw i'r de gyda'i merched hithau. 47Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo eu harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw!

48“‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr Arglwydd, ‘doedd dy chwaer Sodom a'i merched ddim yn ymddwyn mor ddrwg ag wyt ti a dy ferched wedi gwneud! 49Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen. 50Roedden nhw'n snobyddlyd, ac yn gwneud peth cwbl ffiaidd. Felly dyma fi'n cael gwared â nhw, fel rwyt ti'n gwybod yn iawn. 51Ac wedyn Samaria – wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi ei wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'i cymharu â ti! 52Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti!

Adfer Sodom a Samaria

53“‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd, 54i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da! 55Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath. 56Roedd Sodom yn destun sbort gen ti pan oedd pethau'n mynd yn dda arnat ti, 57cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di. 58Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi eu gwneud, meddai'r Arglwydd.

Ymrwymiad fydd yn para am byth

59“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a torri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni? 60Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth. b 61Wedyn byddi di'n cofio sut wnest ti ymddwyn, ac yn teimlo cywilydd mawr pan fyddi di'n derbyn dy ddwy chwaer yn ôl, yr hynaf a'r ifancaf. Dw i'n eu rhoi nhw i ti fel merched, er bod yr ymrwymiad wnes i ddim yn rhoi rheidrwydd arna i i wneud hynny. 62Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda ti, a byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd. 63Byddi'n cofio beth wnest ti, ac yn teimlo cywilydd mawr. Bydda i wedi maddau'r cwbl i ti, a gwneud iawn am bopeth wnest ti, a fyddi di ddim yn meiddio dweud gair,’” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM