1Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor. 2Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât.3Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau. 4Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol. 5Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded trwyddo. 6Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?” Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon. 7Pan gyrhaeddais yno gwelais fod lot fawr o goed yn tyfu bob ochr i'r afon. 8“Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Araba ac yna i'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres. 9Ble bynnag mae'r afon yn llifo bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi y dŵr hallt yn ddŵr glân. Ble bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo. 10Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir. 11Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt. 12Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.”
Rhannu'r Tir
Ffiniau'r Tir
13Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel (Bydd Joseff yn cael dwy ran). 14Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Roeddwn i wedi ei addo i'r hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi.15“A dyma'r ffiniau: Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad. 16Wedyn i Berotha a Sibraim (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran). 17Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd. 18Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr Afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain. 19Yn y de, bydd y ffin yn rhedeg ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyna ffin y de. 20Wedyn i'r gorllewin, Môr y Canoldir ei hun fydd y ffin i fyny'r holl ffordd at bwynt gyferbyn â Bwlch Chamath. Dyna ffin y gorllewin. 21“Dyma sut mae'r tir o fewn y ffiniau yma i gael ei rannu rhwng llwythau Israel. 22Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi eu geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall. 23Ble bynnag mae mewnfudwr yn byw, mae i gael tir i'w etifeddu gyda pawb arall yn y llwyth hwnnw,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?