‏ Ezekiel 41

1Yna dyma'r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa. Roedden nhw'n dri metr o led. 2Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.

3Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol.
41:3 aeth i mewn i'r cysegr mewnol Er fod Eseciel (oedd yn offeiriad) wedi cael mynd i mewn i'r cyntedd a'r cysegr allanol, dydy e ddim yn mynd i mewn i'r cysegr mewnol.
Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner.
4Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i.

Yr Ystafelloedd Ochr

5Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led. 6Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun. 7Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol. 8Roedd y deml wedi ei hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr. 9Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml 10a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led. 11Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored – un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl.

Yr adeilad i'r gorllewin o'r Deml

12Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.

Mesuriadau'r Deml

13Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall. 14Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner.

15Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.

Cynllun Mewnol y Cysegr Allanol a'r Cyntedd

Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt
16wedi eu panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi eu panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri, 17ar y wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun 18roedd y cwbl wedi ei addurno gyda ceriwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a ceriwb bob yn ail. Roedd gan bob ceriwb ddau wyneb – 19wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi eu cerfio dros y deml i gyd. 20Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol.

21Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa'r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel 22allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a'i ochrau yn bren. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma'r bwrdd sy'n sefyll o flaen yr Arglwydd.

23Roedd drysau dwbl i mewn i'r cysegr allanol ac i'r cysegr mewnol, 24gyda'r drysau'n agor at allan ac i mewn. 25Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan. 26Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.