1Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. ▼
▼29:1 deuddegfed diwrnod o'r degfed mis Ionawr 7, 587 CC mae'n debyg
Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo ▼
▼29:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC – gw. Jeremeia 44:30 a 37:5,11
, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft. 3Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti! y Pharo, brenin yr Aifft; y ddraig fawr sy'n gorwedd yng nghanol ei ffosydd. “Fi piau'r Afon Nil,” meddet ti, “a fi sydd wedi ei chreu hi.” 4Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda pysgod o'r ffosydd yn glynu wrth dy groen. 5Bydda i'n dy daflu i'r anialwch, ti a physgod y ffosydd. Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu, i farw ar dir agored – yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar. 6Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifft yn gweld mai fi ydy'r Arglwydd. Ti wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen i bobl Israel bwyso arni. 7Dyma nhw'n gafael ynot ti, ond dyma ti'n torri ac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle. Wrth iddyn nhw bwyso arnat ti dyma ti'n hollti a gadael eu cluniau'n sigledig. c 8“‘Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd. 9Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd. “‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,” 10dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia. ▼
▼29:10 Ethiopia Hebraeg, Cwsh, sef ardal i'r de o'r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a'r Swdan.
11Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nag anifeiliaid yn crwydro yno. 12Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.13“‘Ond yna, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. 14Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. 15Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. 16A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.’”
Selio Tynged yr Aifft
17Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. ▼
A dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd: 18“Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn ▼
▼29:18 Hebraeg, “wedi gwneud pob pen yn foel a phob ysgwydd yn gignoeth.”
, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech! 19Felly dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio ei thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr. 20Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i'w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.21“Bryd hynny bydda i'n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti'n ddweud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.”
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?