Ezekiel 18
Pawb yn atebol am ei fywyd ei hun
1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Beth ydy'r dywediad yna dych chi'n ei ddefnyddio o hyd am wlad Israel, ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion,ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’?
3Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” meddai'r Arglwydd, “fydd y dywediad yma ddim i'w glywed yn Israel eto. 4Mae pob unigolyn yn atebol i mi – y rhieni a'r plant fel ei gilydd. Mae pob person yn marw am ei bechod ei hun. 5“Meddyliwch am rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn ymddwyn yn gyfiawn ac yn deg. 6Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall, nac yn cael rhyw gyda gwraig pan mae'r misglwyf arni. 7Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. a Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. b 8Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. c Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill. 9Mae e'n gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 10“Cymrwch wedyn fod mab y dyn yna'n troi allan i fod yn lleidr ac yn llofrudd. Mae'n gwneud y pethau drwg yma i gyd 11(pethau wnaeth ei dad ddim un ohonyn nhw): Mae'n mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd ac yn bwyta o'r aberthau. Mae'n cysgu gyda gwraig rhywun arall. 12Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd. 13Ac mae'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Fydd e'n cael byw? Na, dim o gwbl! Rhaid iddo farw am wneud pethau mor ffiaidd. Arno fe fydd y bai. 14“Wedyn cymrwch fod hwnnw'n cael mab, sy'n gweld yr holl ddrwg mae ei dad yn ei wneud ac yn penderfynu peidio dilyn ei esiampl. 15Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall. 16Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. 17Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. “Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw. 18Ond bydd ei dad, oedd yn gorthrymu pobl a chymryd mantais annheg ohonyn nhw, yn dwyn eiddo ei gydwladwyr a gwneud pob math o bethau drwg eraill, yn cael ei gosbi. Bydd rhaid iddo farw. 19‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw. 20Yr un sy'n pechu fydd yn marw. Fydd mab ddim yn dioddef am y drwg wnaeth ei dad, a fydd tad ddim yn dioddef am ddrygioni ei fab. Bydd y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu gwobr, a bydd pobl ddrwg yn cael eu cosbi am beth wnaethon nhw. 21“Ond os ydy rhywun sydd wedi gwneud pethau drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg a gwrando arna i, bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. 22Fydda i ddim yn cadw rhestr o'i holl bechodau e. Am ei fod e wedi dechrau gwneud beth sy'n iawn bydd e'n cael byw. 23“Ydw i'n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw?” meddai'r Arglwydd. “Wrth gwrs ddim! Byddai'n well gen i eu gweld nhw'n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw. 24Ond wedyn, ar y llaw arall, os bydd person da yn stopio gwneud beth sy'n iawn ac yn dechrau gwneud yr holl bethau ffiaidd mae pobl ddrwg yn eu gwneud, fydd e'n cael byw? Na fydd. Bydda i'n anghofio'r holl bethau da wnaeth e. Am ei fod e wedi bod yn anffyddlon i mi a pechu yn fy erbyn i, bydd rhaid iddo farw. 25“‘Ond dydy hynny ddim yn iawn!’ meddech chi. “Gwrandwch, bobl Israel: Ydych chi'n dweud fy mod i ddim yn gwneud y peth iawn? Onid chi sydd ddim yn gwneud y peth iawn? 26Pan mae pobl dda yn stopio gwneud beth sy'n iawn, ac yn dechrau byw bywyd drwg, bydd rhaid iddyn nhw farw. Byddan nhw'n marw o achos y pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. 27A pan mae person drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw, ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, bydd e'n achub ei fywyd. 28Am ei fod wedi meddwl am y peth a penderfynu stopio ymddwyn felly bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. 29“Ond mae pobl Israel yn dal i gwyno, ‘Dydy hynny ddim yn iawn!’ Ai fi ydy'r un sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn, bobl Israel? Onid chi ydy'r rhai sydd ddim yn gwneud y peth iawn? 30“Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi. 31Stopiwch dynnu'n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel? 32Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. “Felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!”
Copyright information for
CYM