Exodus 7
1A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Bydda i'n dy wneud di fel ‛duw‛ i'r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd. 2Rwyt i ddweud popeth dw i'n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad. 3Ond bydda i'n gwneud y Pharo'n ystyfnig. Bydda i'n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft, 4ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i'n taro'r Aifft, eu cosbi nhw'n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o'r wlad mewn rhengoedd trefnus. 5Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r Arglwydd pan fydda i'n taro'r Aifft ac arwain pobl Israel allan o'i gwlad nhw.” 6Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrthyn nhw. 7Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo.Ffon Aaron yn troi'n neidr
8Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron, 9“Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.” 10Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth. 11Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith. 12Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd! 13Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.Y deg trychineb yn taro'r Aifft
Dŵr yn troi'n waed
14Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl. 15Bore yfory dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan yr Afon Nil, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr. 16Dywed wrtho, ‘Mae'r Arglwydd, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando. 17Felly mae'r Arglwydd yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r Arglwydd: Dw i'n mynd i daro dŵr yr Afon Nil gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed. 18Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’” 19Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi ei gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.” 20Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn. Codi'r ffon a taro dŵr yr Afon Nil o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr yr Afon Nil yn troi'n waed. 21Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd! 22Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud. 23Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth. 24Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr yr Afon Nil.Pla o lyffaint
25Aeth wythnos lawn heibio ar ôl i'r Arglwydd daro'r afon.
Copyright information for
CYM