‏ Exodus 5

Moses yn mynd at y Pharo

1Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae'r Arglwydd, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’”

2Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r Arglwydd yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd ychwaith!”

3A dyma nhw'n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r Arglwydd ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”

4“Moses, Aaron,” meddai'r brenin, “dych chi'n stopio'r bobl rhag mynd ymlaen gyda'u gwaith! Ewch yn ôl i weithio! 5Mae'r bobl yma drwy'r wlad i gyd, a dych chi'n ei stopio nhw rhag gweithio!” 6Felly'r diwrnod hwnnw, dyma'r Pharo yn gorchymyn i'r meistri gwaith a'r fformyn oedd dros y bobl: 7“Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt
5:7 wellt Roedd y gwellt yn gwneud y briciau yn gryfach, ac yn eu cadw rhag cracio a cholli eu siâp.
i'r bobl sy'n gwneud briciau o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain!
8Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o friciau ac o'r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae'n amlwg eu bod nhw'n slacio, a dyna pam maen nhw'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'n Duw.’ 9Gwnewch iddyn nhw weithio'n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau'r dynion yna wedyn!”

10Felly dyma'r meistri gwaith a'r fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen. 11Rhaid i chi'ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o friciau ac o'r blaen.’” 12Felly dyma'r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt.

13Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ac o'r blaen, pan oedden ni'n rhoi gwellt i chi!” 14Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi'n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu'r cwota llawn o friciau fel o'r blaen. 15Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a pledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma? 16Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud briciau! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.”

17Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r Arglwydd.’ 18Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau!”

19Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau ac o'r blaen.”

20Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw. 21A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr Arglwydd yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!”

Addewid Duw i Moses

22Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr Arglwydd, a dweud, “O! Feistr, pam ti'n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw? 23O'r eiliad es i i siarad â'r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i'r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i'w hachub nhw!”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.