‏ Exodus 35

Rheolau'r Saboth

1Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae'r Arglwydd wedi ei orchymyn i chi ei wneud:

2“Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i'r Arglwydd – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. 3Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”

Offrymau i adeiladu'r Tabernacl

(Exodus 25:1-9; 35:10-19; 39:32-43)

4Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei orchymyn. 5‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r Arglwydd: aur, arian, pres, 6edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr, 7crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 8olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, 9onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. 10Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r Arglwydd wedi ei orchymyn:

11Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
12Yr Arch a'i pholion, y caead drosti, a'r sgrîn sy'n ei chuddio.
13Y bwrdd, gyda'i bolion a'i lestri, i osod y bara cysegredig arno.
14Y menora sy'n rhoi golau, gyda'i hoffer i gyd, y lampau a'r olew.
15Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.
Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl.
16Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, gyda'r gratin bres sydd arni, y polion, a'r offer sy'n mynd gyda hi i gyd.
Y ddysgl fawr gyda'i stand.
17Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard.
18Pegiau a rhaffau'r Tabernacl a'r iard.
19Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”

Rhoddion i'r Arglwydd

20Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd. 21Ond daeth rhai, oedd wedi eu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a cyflwyno eu rhoddion i'r Arglwydd – rhoddion tuag at godi Pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. 22Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 23Eraill yn dod ag edau las, porffor, neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod. 24Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r Arglwydd. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. 25Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi ei wneud – edau las, porffor, neu goch, neu liain main drud. 26Roedd gwragedd eraill wedi eu hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi ei wneud o flew gafr.

27Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. 28Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. 29Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r Arglwydd – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.

Betsalel ac Aholïab

(Exodus 31:1-11)

30Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r Arglwydd wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. 31Mae wedi ei lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, 32a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres. 33I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig. 34Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. 35Mae Duw wedi rhoi'r doniau i'r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, a gwneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.