‏ Esther 7

1Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther 2am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”

3A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau. 4Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.”

5A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?”

6A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg ydy e sy'n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!”

Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines. 7Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gwybod y byddai'r brenin yn trefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon.

8Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!”

Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman. 9A dyma Harbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.”

A dyma'r brenin yn dweud, “Crogwch Haman arno!” 10Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.