Esther 10
Mordecai yn fwy a mwy enwog
1Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol – yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas. 2Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi eu cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia. 3Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.
Copyright information for
CYM