‏ Ephesians 3

Paul, y pregethwr i bobl o genhedloedd eraill

1Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i'n pregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu.

2Dw i'n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i'ch helpu chi. 3Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi ei guddio o'r blaen. Dw i wedi ceisio'i esbonio'n fyr yma. 4Wrth i chi ei ddarllen, dowch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia. 5Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi ei ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi. 6Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi ei baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi eu gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd!

7Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl. 8Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. 9Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi ei gadw o'r golwg cyn hyn. 10Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw. 11Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. 12Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. 13Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!

Gweddi dros yr Effesiaid

14Wrth feddwl am hyn i gyd dw i'n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad. 15Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. 16Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. 17Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud – dyna'r sylfaen i adeiladu arni! 18Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! 19Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy'n llawer rhy fawr i'w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â'r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. 20Clod iddo! Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu! 21Dylen ni sydd yn yr eglwys ac wedi'n huno gyda'r Meseia Iesu roi clod iddo am byth bythoedd! Amen.

Copyright information for CYM