Deuteronomy 28
Canlyniad bod yn ufudd
(Lefiticus 26:3-13; Deuteronomium 7:12-24) 1“Os byddwch chi wir yn ufudd i'r Arglwydd eich Duw, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd. 2Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi'n ufudd iddo: 3Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio.4Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach. 5Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd.
6Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi.
7Bydd yr Arglwydd yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
8Bydd yr Arglwydd yn llenwi eich ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi.
9Bydd yr Arglwydd yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi eu cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau. 10Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr Arglwydd, a byddan nhw'n eich parchu chi.
11Bydd yr Arglwydd yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.
12Bydd yr Arglwydd yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.
13Bydd yr Arglwydd yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 14Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill.
Melltithion am fod yn anufudd
(Lefiticus 26:14-46) 15“Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr Arglwydd eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi! 16Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio.17Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd.
18Bydd eich plant, a chynnyrch eich tir wedi eu melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach.
19Cewch eich melltithio ble bynnag ewch chi.
20Bydd yr Arglwydd yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i.
21Bydd yr Arglwydd yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd. 22Byddwch yn dioddef o afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu.
23Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a'r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw. 24Bydd yr Arglwydd yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa.
25Bydd yr Arglwydd yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd. 26Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwylltion, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
27Bydd yr Arglwydd yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi – a fydd dim gwella i chi.
28Bydd yr Arglwydd yn achosi panig, a'ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd. 29Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi.
30Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi.
Byddwch chi'n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo.
Byddwch chi'n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu ei ffrwyth.
31Bydd eich ychen yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta'r cig.
Byddwch chi'n gwylio eich asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl.
Bydd eich praidd o ddefaid yn cael eu cymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i'ch achub chi.
32Bydd eich meibion a'ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi'n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw'n ôl.
33Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi'n cael eich gorthrymu a'ch sathru dan draed am weddill eich bywydau. 34Bydd gweld hyn yn eich gyrru chi'n wallgof!
35Bydd yr Arglwydd yn gwneud i'ch gliniau a'ch coesau chwyddo – byddwch chi mewn poen drosoch, o'r corun i'r sawdl.
36Bydd yr Arglwydd yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi ei benodi drosoch, at bobl ydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg. 37Byddwch chi'n achos dychryn, wedi'ch gwneud yn esiampl ac yn destun sbort i'r bobloedd y bydd yr Arglwydd yn eich gyrru chi atyn nhw.
38Byddwch chi'n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha.
39Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu'r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw!
40Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim ei roi ar eich hwynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu.
41Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion.
42Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau.
43Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach. 44Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn!
45“Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r Arglwydd eich Duw, ac heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi. 46Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a'ch disgynyddion. 47“Wnaethoch chi ddim defnyddio'r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu'r Arglwydd eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny, 48felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr Arglwydd eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed bydd yn ddigon i'ch lladd chi! 49“Bydd yr Arglwydd yn gwneud i bobl o wlad bell godi yn eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw. 50Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc. 51Byddan nhw'n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau'r tir i gyd, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl. 52Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau eich trefi amddiffynnol chi ac ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio – a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ▼
▼28:52 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
ar drefi drwy'r wlad i gyd 53a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy byddwch chi'n bwyta eich plant – ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched! 54Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi! 56Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi! 58“Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr Arglwydd eich Duw. 59Os na wnewch chi, bydd e'n eich cosbi chi a'ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol. 60Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro'r Aifft, a fydd dim iachâd. 61Bydd yr Arglwydd yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr yn y diwedd. 62Ar un adeg roedd cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr Arglwydd eich Duw. 63“Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr Arglwydd wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd. 64Bydd yr Arglwydd yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. 65Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr Arglwydd yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith. 66Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi'n dal yn fyw y diwrnod wedyn. 67Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi! 68Bydd yr Arglwydd yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi yn ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu eich hunain yn gaethweision a caethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau eich prynu chi.”
Copyright information for
CYM