‏ Deuteronomy 1

Cyflwyniad

1Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i Afon Iorddonen – yn y rhan o'r Araba sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.

2Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai
1:2 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall am Fynydd Sinai.
i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.
3Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un
1:3 mis un deg un Shebat, sef mis un deg un yn y calendr Hebreig, o tua canol Ionawr i ganol Chwefror.
y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn iddo.

4Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei. c 5Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:

Anerchiad cyntaf Moses

6“Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai
1:6 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall am Fynydd Sinai.
, dyma'r Arglwydd ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
7Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr. 8Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’

Moses yn penodi arweinwyr i farnu achosion

(Exodus 18:13-27)

9“Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – mae'n ormod o faich. 10Mae'r Arglwydd wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr! 11A boed i'r Arglwydd, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud! 12Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd? 13Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’ 14A dyma chi'n cytuno ei fod yn syniad da. 15Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.

16“Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw hefyd. 17Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.

18“Roeddwn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.

Ysbiwyr yn cael eu hanfon o Cadesh-barnea

19“Yna, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea. 20Ac yno dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r Arglwydd yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr. 21Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r Arglwydd, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.’

22“Ond dyma chi'n dod ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf. Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’

23“Roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth. 24Dyma nhw'n mynd drosodd i'r bryniau, a cyrraedd Wadi Eshcol.
1:24 Wadi Eshcol Sychnant oedd yn enwog am ei gwinllannoedd.
Ar ôl edrych dros y wlad,
25dyma nhw'n dod yn ôl gyda peth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r Arglwydd ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’

26“Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, 27aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr Arglwydd a ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid! 28I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’

29“Gwnes i drïo dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn! 30Mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft! 31Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi eich cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario ei fab!’

32“Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r Arglwydd eich Duw, 33yr un oedd mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.

Yr Arglwydd yn cosbi pobl Israel

(Numeri 14:20-45)

34“Pan glywodd yr Arglwydd beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw: 35‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi! 36Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’

37“Ac roedd yr Arglwydd wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith. 38Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir. 39Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e. 40Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’
1:40 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

41“Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrthon ni.’

“A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau. 42Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dywed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’

43“Dyma fi'n dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain. 44Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma. 45Pan gyrhaeddoch chi yn ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r Arglwydd am help, ond wnaeth e gymryd dim sylw ohonoch chi. 46Felly dyma chi'n aros yn Cadesh am amser hir iawn.

Copyright information for CYM