‏ Deuteronomy 13

1“Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau trwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd. 2Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen), 3peidiwch gwrando arno. Mae'r Arglwydd yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. 4Dych chi i fod i ddilyn yr Arglwydd eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo.

5“Os ydy proffwyd, neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr Arglwydd, dylai gael ei ddienyddio. Yr Arglwydd eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi.

6“Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu eich ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill 7(sdim ots o ble – eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd), 8peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion na cadw'i ran. 9Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi. 11Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto.

12“Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r Arglwydd eich Duw yn eu rhoi i chi, fod 13rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (duwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen) 14rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd, 15rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu ladd, gan gynnwys yr anifeiliaid. 16Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r Arglwydd eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto. 17Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr Arglwydd yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'r hynafiaid.

18“Felly rhaid i chi wneud beth mae'r Arglwydd eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.

Copyright information for CYM