z1 Macabeaid 1:20-40; 2 Macabeaid 5:11-26
aa1 Macabeaid 1:41-64
abDaniel 9:27; 12:11; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)
Daniel 11
1A dw i wedi bod yn ymladd a'i helpu e ers blwyddyn gyntaf teyrnasiad Dareius o Media.” ▼▼11:1 Dareius o Media gw. 5:31.
Neges yr angel i Daniel
Rhan un: y pedwar brenin a'u holynwyr
2“Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall ▼▼11:2 tri brenin arall Cambyses (tua 530–522 CC), Pseudo-Smerdis (tua 522 CC) a Dareius I Hystaspes (tua 522–486 CC) mae'n debyg.
yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, ▼▼11:2 pedwerydd Xerxes I (tua 486–465 CC) mae'n debyg.
fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid. 3Yna bydd brenin pwerus ▼▼11:3 brenin pwerus Alecsander Fawr (oedd yn teyrnasu o tua 336 i 323 CC) mae'n debyg. Concrodd Ymerodraeth Persia yn 330 CC
yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau. 4Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw. ▼▼11:4 bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair … rhyngddyn nhw Y pedwar cadfridog y rhannwyd teyrnas Alecsander Fawr rhyngddyn nhw mae'n debyg – Cassander (Macedonia a Groeg), Lysimachus (Thrace a rhannau o Asia Leiaf), Seleucus (Syria a thiroedd tua'r dwyrain), a Ptolemi (Yr Aifft). Bu farw Alecsander Fawr yn 323 CC, ac ar ôl blynyddoedd o ffraeo rhwng cadfridogion y fyddin, rhannodd yr Ymerodraeth yn bedair teyrnas yn 301 CC
5“Wedyn bydd brenin y de ▼▼11:5 brenin y de Ptolemi I Soter (tua 322–285 CC) yn yr Aifft.
yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ▼▼11:5 un o'i swyddogion Seleucus I Nicator (tua 312–280 CC) ddaeth i deyrnasu ar Syria a Mesopotamia.
ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth. 6Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de. ▼▼11:6 brenin y gogledd a brenin y de Antiochus II Theos (tua 261–246 CC) a Ptolemi II Philadelffws (tua 285–246 CC)
Bydd merch brenin y de ▼▼11:6 merch brenin y de Berenice, merch Ptolemi II
yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd. “Ond yna 7bydd un o'i pherthnasau hi ▼▼11:7 un o'i pherthnasau hi ei brawd, Ptolemi III Euergetes (tua 246-221 CC)
yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd ▼▼11:7 brenin y gogledd Seleucus II Callinicus (tua 246–226 CC)
, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr. 8Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny. 9Ac wedyn bydd brenin y gogledd ▼▼11:9 brenin y gogledd Ymosododd Seleucus II ar yr Aifft yn 242 CC, ond roedd rhaid iddo droi'n ôl.
yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun. 10Yna bydd ei feibion ▼▼11:10 ei feibion Seleucus III Ceraunus (tua. 226–223 CC) ac Antiochus III, sef Antiochus Fawr (tua. 223–187 CC).
yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de. 11“Bydd brenin y de ▼▼11:11 brenin y de Ptolemi IV Philopator (tua 221–203 CC).
wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ▼▼11:11 brenin y gogledd Antiochus III (tua 223–187 CC).
ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu. 12Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir. 13Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau. 14“Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. ▼▼11:14 brenin y de Ptolemi V Epiphanes (tua 203–181 CC).
Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw. 15Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw. 16Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, ▼▼11:16 Wlad Hardd gw. nodyn ar 8:9.
a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr. 17Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched ▼▼11:17 un o'i ferched Cleopatra, merch Antiochus III. Rhoddodd hi yn wraig i Ptolemi V.
yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo. 18“Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall ▼▼11:18 arweinydd byddin arall Lwcius Cornelius Scipio, y cadfridog Rhufeinig, mae'n debyg. Ennillodd Frwydr Magnesia yn erbyn Antiochus III yn 190 CC
yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu! 19Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth. 20“Bydd ei olynydd ▼▼11:20 ei olynydd Seleucus IV Philopator (tua 187–175 CC), mab Antiochus III.
yn anfon un allan ▼▼11:20 anfon un allan Heliodorus, prif weinidog Seleucus IV mae'n debyg (gw. 2 Macabeaid 3).
i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr. Rhan dau: y brenin drwg o'r gogledd
21“Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd ▼▼11:21 dyn cwbl ffiaidd Antiochus IV Epiphanes (tua 175–163 CC), brawd iau Seleucus IV.
yn cymryd yr orsedd – er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll. 22Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd. ▼▼11:22 arweinydd crefyddol … ladd Onias III, yr archoffeiriad – gw. 2 Macabeaid 4
23Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr. 24Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn. 25“Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. ▼▼11:25 brenin y de Ptolemi VI Philometor (tua 181–146 CC).
Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn. 26Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd. 27Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben. 28Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre. 29“Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma. 30Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin ▼▼11:30 gorllewin Hebraeg, Cittim – sef Cyprus, gw. Numeri 24:24. Pobl yn dod o gyfeiriad Môr y Canoldir yn y gorllewin. Cyfeiriad at fyddin Rhufain, dan arweiniad Gaius Popilius Laenas, sydd yma. Roedd yr Aifft wedi gofyn am help Rhufain.
yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. z Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd. aa 31Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio ab yno. ▼▼11:31 Bydd ei fyddin … trallod yno Gwnaeth Antiochus IV ddefodau Iddewig yn anghyfreithlon (Darllen y Gyfraith, cadw'r Saboth, ymarfer enwaediad a chyflwyno aberthau). Cysegrodd y Deml o'r newydd i'r duw Zews/Iau, codi delw o'r duw hwnnw yn y deml ac (yn ôl yr hanesydd Josephus) aberthu moch iddo ar yr allor.
32Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn. ▼▼11:32 sefyll yn gryf yn ei erbyn Cyfeiriad at wrthryfel y Macabeaid, arweiniodd at gyfnod o annibyniaeth Iddewig. Cafodd y Deml ei hailgysegru yn Rhagfyr 164 CC ychydig dros dair blynedd ar ôl Antiochus IV ei halogi (gw. 1 Macabeaid 4:36-58)
33Bydd y rhai doeth yn dysgu trwch y boblogaeth beth i'w wneud. Ond bydd cyfnod anodd yn dilyn, pan fydd llawer yn cael eu lladd gan y cleddyf, eu llosgi, eu caethiwo, ac yn colli popeth. 34Pan fydd hyn yn digwydd, byddan nhw'n cael rhywfaint o help. Ond fydd llawer o'r rhai fydd yn ymuno â nhw ddim wir o ddifrif. 35Bydd hyd yn oed rhai o'r arweinwyr doeth yn syrthio. Bydd hyn yn rhan o'r coethi, y puro a'r glanhau sydd i ddigwydd cyn i'r diwedd ddod. Ac mae'r diwedd hwnnw yn sicr o ddod. 36“Bydd y brenin ▼▼11:36 y brenin Mae'n debyg fod adn.36-45 yn crynhoi sut gymeriad oedd Antiochus IV. Ond gall hefyd fod yn ddarlun o'r Anghrist, fydd yn dod yn y dyddiau olaf.
yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi ei benderfynu yn mynd i ddigwydd. 37Fydd e'n dangos dim parch at dduwiau ei hynafiaid, hyd yn oed ffefryn y merched. ▼▼11:37 ffefryn y merched Tammus-Adonis falle. gw. Eseciel 8:14
Fydd e'n dangos dim parch at unrhyw dduw. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na nhw i gyd. ▼▼11:37 bydd yn brolio … nhw i gyd Roedd yr arysgrif ar ddarnau arian Antiochus IV o tua 169 CC ymlaen yn darllen: “y Brenin Antiochus, Duw yn dangos ei hun, yr un sy'n dod â buddugoliaeth.”
38Yn eu lle nhw bydd yn addoli duw'r canolfannau milwrol – duw doedd ei hynafiaid yn gwybod dim amdano. Bydd yn tywallt aur, arian, gemau ac anrhegion costus eraill arno. 39Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw. Rhan tri: y diwedd
40“Yna yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn ei erbyn. Ond bydd brenin y gogledd yn ei daro yn ôl yn galed gyda cerbydau, marchogion, a llynges o longau rhyfel. Bydd yn concro gwledydd ac yn ysgubo trwyddyn nhw fel afon wedi gorlifo. 41Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd. ▼▼11:41 y Wlad Hardd gw. y nodyn ar 8:9.
Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc. 42Wrth iddo ymestyn allan bydd yn taro un wlad ar ôl y llall. Fydd hyd yn oed yr Aifft ddim yn dianc. 43Bydd yn rheoli holl drysorau'r Aifft – yr aur, yr arian, a phopeth arall. Bydd Libia a Cwsh ▼▼11:43 Cwsh Teyrnas i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
yn ildio iddo. 44“Ond yna, bydd adroddiadau o'r dwyrain a'r gogledd yn achosi panig. Bydd yn mynd allan yn wyllt i ddinistrio a lladd llawer iawn o bobl. 45Bydd yn codi ei babell frenhinol i wersylla rhwng Môr y Canoldir a'r Mynydd Cysegredig. Dyna ble bydd yn cwrdd â'i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024