‏ Daniel 1

Daniel a'i ffrindiau

(1:1—6:28)

Y dynion ifanc yn llys Nebwchadnesar

1Yn y drydedd flwyddyn
1:1 y drydedd flwyddyn 605 CC Roedd Jehoiacim yn frenin o 609 i 598 CC Byddai Daniel yn fachgen yn ei arddegau ar y pryd
pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon,
1:1 Nebwchadnesar, brenin Babilon Roedd Nebwchadnesar yn teyrnasu o tua 605 i 562 CC Byddai Daniel yn fachgen yn ei arddegau ar y pryd
yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. c
2A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon,
1:2 wlad Babilon Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon.
a'i cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw. e

3Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill – 4dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon
1:4 Babilon Hebraeg, “Caldeaid”, sy'n hen enw am y Babiloniaid.
, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad.
5A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi ei baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin. 6Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia. 7Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego.
1:7 Ond dyma'r … Abednego Roedd rhoi enwau newydd yn arwydd o berchnogaeth. Newidwyd eu henwau Hebreig i enwau oedd yn dyrchafu duwiau Babilon. Ystyr yr enwau Hebreig: Daniel – ‛Duw ydy fy Marnwr‛; Hananeia – ‛Mae'r Arglwydd wedi bod yn hael‛; Mishael – ‛Pwy sydd fel Duw?‛; ac Asareia – ‛Mae'r Arglwydd wedi helpu‛.

8Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am i wneud ei hun yn aflan drwy fwyta'r bwyd a'r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i'r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta'r bwyd brenhinol. 9Roedd Duw wedi gwneud i'r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato, 10ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth ydych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!” 11Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia. 12“Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr, 13ac wedyn cei di weld sut fyddwn ni'n cymharu gyda'r bechgyn eraill sy'n bwyta'r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.”

14Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod. 15Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a'i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na'r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta'r bwydydd gorau o gegin y palas. 16Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle'r bwydydd cyfoethog a'r gwin roedden nhw i fod i'w gael.

17Rhoddodd Duw allu anarferol i'r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion.

18Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma'r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y brenin Nebwchadnesar. 19Dyma'r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma'r pedwar ohonyn nhw'n cael eu penodi i weithio i'r brenin. 20Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a'i cyngor doeth nhw ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy'r Ymerodraeth gyfan.

21Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin.
1:21 y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin 539 CC Erbyn hynny byddai Daniel yn ei 80au cynnar.

Copyright information for CYM