Acts 5
Ananias a Saffeira
1Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo. 2Ond dyma Ananias yn cadw peth o'r arian iddo'i hun a mynd â'r gweddill i'r apostolion gan honni mai dyna'r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw'n ei wneud. 3Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun! 4Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!” 5Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau. 6Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu. 7Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd. 8Felly, dyma Pedr yn gofyn iddi, “Dywed wrtho i, ai dyma faint o arian gest ti ac Ananias am y tir wnaethoch chi ei werthu?” “Ie,” meddai hi, “dyna'n union faint gawson ni.” 9Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.” 10A dyma hithau yn disgyn ar lawr yn farw yn y fan a'r lle. Daeth y dynion ifanc i mewn, gweld ei bod hi'n farw, a'i chario hithau allan i'w chladdu wrth ymyl ei gŵr. 11Roedd yr eglwys i gyd, a phawb arall glywodd am y peth, wedi dychryn am eu bywydau.Yr apostolion yn iacháu llawer o bobl
12Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl – gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml. 13Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw. 14Ac eto roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd – yn ddynion a merched. 15Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio. 16Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu.Yr apostolion yn cael eu herlid
17Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus. 18Felly dyma nhw'n arestio'r apostolion a'u rhoi yn y carchar. 19Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau'r carchar a'u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw, 20“Ewch i'r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.” 21Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin – sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel – dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar. 22Ond pan gyrhaeddodd rheiny'r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud, 23“Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi ei gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!” 24Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl “Beth nesa!” 25Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! – mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!” 26Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd. 27Dyma nhw'n dod â'r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad. 28“Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!” 29Atebodd Pedr a'r apostolion eraill: “Mae'n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi! 30Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren! 31Ac mae Duw wedi ei osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi eu maddau. 32Dŷn ni'n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i'r ffaith gyda ni. Dyma'r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy'n ufuddhau iddo.” 33Pan glywon nhw beth ddwedodd yr apostolion roedden nhw'n gynddeiriog. Roedden nhw eisiau eu lladd nhw! 34Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato). Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig, 35ac yna dwedodd hyn: “Ddynion. Arweinwyr Israel. Rhaid meddwl yn ofalus cyn penderfynu beth i'w wneud â'r dynion yma. 36Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a cafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth. 37Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a cafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl. 38Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl. 39Ond os oes gan Dduw rywbeth i'w wneud a'r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.” 40Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd. 41Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu. 42Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw'n dal ati i ddysgu'r bobl a chyhoeddi'r newyddion da mai Iesu ydy'r Meseia.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024