cSalm 89:20 a 1 Samuel 13:14
eEseia 55:3 (LXX)
fSalm 16:10 (LXX)
gHabacuc 1:5 (LXX)
hcyfeiriad at Eseia 42:6; 49:6
Acts 13
Barnabas a Saul yn cael eu hanfon i ffwrdd
1Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan roedd yn blentyn), a Saul. 2Pan oedden nhw'n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma'r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.” 3Felly ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw'n rhoi eu dwylo ar y ddau i'w comisiynu nhw, ac yna eu hanfon i ffwrdd.Taith Genhadol Gyntaf Paul
Ar Ynys Cyprus
4Dyma'r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma'r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus. 5Ar ôl cyrraedd Salamis dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.) 6Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw, 7ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw. 8Ond dyma Elymas ‛y dewin‛ (dyna ydy ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd. 9Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw'n Paul), yn llawn o'r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud, 10“Plentyn i'r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti'n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd? 11Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod – fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law. 12Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi ei syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.Yn Antiochia Pisidia
13Yna dyma Paul a'r lleill yn gadael Paffos a hwylio yn eu blaenau i Perga yn Pamffilia ▼▼13:13-14 Ardaloedd yn y wlad dŷn ni'n ei hadnabod fel Twrci oedd Pamffilia a Pisidia.
. Dyna lle gadawodd Ioan Marc nhw i fynd yn ôl i Jerwsalem. 14Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog. 15Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.” 16Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw. 17Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn. 18Goddefodd eu hymddygiad ▼▼13:18 neu, yn ôl llawysgrifau eraill gofalodd amdanyn nhw; gw. Deuteronomium 1:31.
yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd. 19Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu. 20Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel. 21Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd. 22Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’ c 23“Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu. 24Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio. 25Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’ 26“Frodyr a chwiorydd – chi sy'n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy'n addoli Duw hefyd, mae'r neges yma am achubiaeth wedi ei hanfon aton ni. 27Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud! 28Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio. 29Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi ei broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd. 30Ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! 31Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw. 32“Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni 33wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i;heddiw des i yn Dad i ti.’ d
34Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr
gafodd eu haddo i Dafydd.’ e
35Ac mae Salm arall yn dweud: ‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi ei gysegru i ti bydru yn y bedd.’ f
36“Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru. 37Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru! 38“Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu. 39Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi. 40Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi: 41 ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio,
rhyfeddwch at hyn, a gwywo!
Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi
rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu,
hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’” g
42Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn. 43Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael. 44Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd. 45Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud. 46Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill. 47Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni: ‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd,
er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’” h
48Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu. 49Felly aeth neges yr Arglwydd ar led drwy'r ardal i gyd. 50Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal. 51Ar ôl ysgwyd y llwch oddi ar eu traed fel arwydd o brotest, dyma'r ddau yn mynd yn eu blaen i Iconium. 52Ond roedd y disgyblion yno yn fwrlwm o lawenydd ac yn llawn o'r Ysbryd Glân.
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024