2 Samuel 16
Dafydd a Siba
1Roedd Dafydd newydd fynd dros gopa'r bryn pan ddaeth Siba, gwas Meffibosheth, i'w gyfarfod. Roedd ganddo ddau asyn wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth, can swp o rhesins, can swp o ffigys aeddfed a photel groen o win. 2A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth ydy'r rhain sydd gen ti?” Atebodd Siba, “Mae'r asynnod i ti a dy deulu farchogaeth arnyn nhw. Mae'r bara a'r ffrwythau i'r milwyr eu bwyta. Ac mae'r gwin i unrhyw un fydd yn llewygu yn yr anialwch.” 3Yna dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ble mae Meffibosheth, ŵyr dy feistr?” “Mae wedi aros yn Jerwsalem,” meddai Siba. “Mae'n meddwl y bydd pobl Israel yn rhoi gorsedd ei daid yn ôl iddo fe nawr.” 4A dyma'r brenin yn dweud wrth Siba, “Os felly, dw i'n rhoi popeth oedd piau Meffibosheth i ti!” A dyma Siba'n dweud, “Dw i'n plygu o dy flaen di, fy meistr a'm brenin. Ti'n rhy garedig ata i.”Shimei yn melltithio Dafydd
5Pan ddaeth Dafydd i Bachwrîm, ▼▼16:5 Bachwrîm Roedd Bachwrîm ar y ffordd rhwng Jericho a Jerwsalem, ar dir llwyth Benjamin.
dyma ddyn o'r enw Shimei fab Gera (oedd yn perthyn i deulu Saul) yn dod allan o'r pentref. Roedd yn rhegi Dafydd yn ddi-stop 6ac yn taflu cerrig ato, ac at y swyddogion, y milwyr a'r gwarchodlu oedd bob ochr iddo. 7Roedd Shimei yn gweiddi a rhegi, “Dos o ma! Dos o ma, y llofrudd ddiawl! 8Mae'r Arglwydd yn talu'n ôl i ti am ladd teulu Saul. Roeddet ti wedi dwyn yr orsedd oddi arno, a nawr mae'r Arglwydd wedi rhoi'r deyrnas i dy fab Absalom. Maen dy dro di i fod mewn helynt, y llofrudd!” 9Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud wrth y brenin, “Pam ddylai ci marw fel hwnna gael rhegi fy meistr, y brenin? Gad i mi fynd a torri ei ben i ffwrdd!” 10Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr Arglwydd wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?” 11A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r Arglwydd sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. 12Falle y bydd yr Arglwydd yn gweld fy mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.” 13Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw. 14Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd. Felly dyma nhw'n cymryd seibiant. Achitoffel yn rhoi cyngor i Absalom
15Yn y cyfamser roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e. 16Yna dyma gynghorydd Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!” 17Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?” 18A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r Arglwydd a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi ei ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros. 19A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.” 20Yna dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?” 21A dyma Achitoffel yn ateb, “Cysga gyda partneriaid ▼▼16:21 partneriaid Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
dy dad – y rhai wnaeth e eu gadael i edrych ar ôl y palas. Bydd pawb yn Israel yn gwybod wedyn dy fod wedi troi dy dad yn dy erbyn yn llwyr, a bydd hynny'n rhoi hyder i bawb sydd ar dy ochr di.” 22Felly dyma nhw'n codi pabell i Absalom ar do fflat y palas, lle roedd pawb yn gallu gweld. A dyma Absalom yn mynd yno a chael rhyw gyda chariadon ei dad i gyd. 23Yr adeg yna, roedd cyngor Achitoffel yn cael ei ystyried fel petai Duw ei hun wedi siarad. Dyna sut roedd Dafydd yn ei weld, a nawr Absalom hefyd.
Copyright information for
CYM