‏ 2 Samuel 8

Llwyddiant milwrol Dafydd

(1 Cronicl 18:1-17)

1Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo. 2Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.

3Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5A pan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.

6Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser.

9Pan glywodd Toi, brenin Chamath,
8:9 Chamath Dinas bwysig ar yr afon Orontes, tua 120 milltir i'r gogledd o Damascus.
fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd,
10dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. 11A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r Arglwydd. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, 12sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi ei gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba.

13Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom
8:13 Edom Hebraeg, “Aram” (sef Syria) – ond gw. 2 Cronicl 18:12, hefyd 2 Brenhinoedd 14:7
yn Nyffryn yr Halen.
14A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd.

15Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. 16Joab (mab Serwia
8:16 mab Serwia Chwaer Dafydd oedd Serwia, felly roedd Joab yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17, a'r troednodyn yn 2 Samuel 17:25).
) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
17Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol. 18Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid
8:18 Hebraeg, Cerethiaid, sy'n enw arall ar y Cretiaid.
a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.