2 Samuel 21
Pobl Gibeon yn dial ar ddisgynyddion Saul
1Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r Arglwydd pam. A dwedodd yr Arglwydd wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.” 2(Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw ▼▼21:2 Doedd pobl Gibeon … heddychlon â nhw gw. Josua 9:22-27
. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw. 3Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi yn bendithio pobl yr Arglwydd?” 4A dyma'r Gibeoniaid yn ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” Ond dyma Dafydd yn dweud, “Dwedwch beth ydych chi eisiau.” 5A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel. 6Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr Arglwydd yn Gibea, tref Saul gafodd ei ddewis gan yr Arglwydd.” A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.” 7Dyma'r brenin yn arbed Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i'w gilydd o flaen yr Arglwydd. b 8Ond dyma fe'n cymryd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth. Hefyd pum mab Merab ▼▼21:8 Merab "Merab" sydd mewn dwy lawysgrif Hebraeg a rhai llawysgrifau o'r LXX. "Michal" sydd yn y mwyafrif o'r llawysgrifau, sef merch Saul oedd yn un o wragedd Dafydd, ond gafodd hi ddim plant (gw. 2 Samuel 6:23). gw. hefyd 1 Samuel 18:19.
, merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola. 9Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr Arglwydd. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd. 10Dyma Ritspa (partner ▼▼21:10-11 partner Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod ▼▼21:10 drwy gydol … y glaw ddod Cyfnod o tua chwe mis, o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Medi.
. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwylltion yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi ei wneud 12ac aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i'r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o'r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi eu crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu ladd yn y frwydr yn Gilboa.) f 13Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi, 14a'i claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, dyma'r Arglwydd yn ateb gweddïau pobl dros y wlad. Brwydrau rhwng Israel a'r Philistiaid
(1 Cronicl 20:4-8) 15Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid. A dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Pan oedd Dafydd wedi blino'n lân 16roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tair cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd. 17Ond dyma Abishai ▼▼21:17 Abishai nai Dafydd, a brawd Joab.
(mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a taro'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl hyn dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!” 18Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid. 19Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd ▼▼21:19 brawd Hebraeg yma heb ‛brawd‛. Ond gw. 1 Cronicl 20:5
Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!) i 20Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) 21Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma ▼▼21:21 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
brawd Dafydd, yn ei ladd e. 22Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw.
Copyright information for
CYM