‏ 2 Samuel 18

Absalom yn cael ei ladd

1Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant. 2Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.” 3Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.” 4Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.”

Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd. 5A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” Roedd y fyddin gyfan wedi ei glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion.

6Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim. 7A dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw. 8Roedd y frwydr wedi lledu i bobman. Ond cafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd gan y cleddyf!

9Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. 10Dyma un o'r dynion welodd beth ddigwyddodd yn mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.” 11Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a'r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal
18:11 medal Hebraeg, “belt”, sef gwregys i arwisgo milwr am wneud rhywbeth arwrol.
i ti.”
12Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom. 13Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!”

14Dyma Joab yn ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden. 15Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom a'i ladd.

16Yna chwythodd Joab y corn hwrdd
18:16 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi eu galw'n ôl.
17Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw'n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre.

18Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo'i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd.
18:18 ddim mab … Yn ôl 14:27 roedd gan Absalom dri mab, ond falle eu bod nhw wedi marw erbyn hyn.
Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae'r golofn yn cael ei galw yn ‛Gofeb Absalom‛.

Dafydd yn clywed fod Absalom wedi marw

19Dyma Achimaats, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi'r newyddion da i'r brenin fod yr Arglwydd wedi ei achub o afael ei elynion.” 20Ond dyma Joab yn ateb, “Na, dim heddiw. Cei fynd rywbryd eto. Dydy e ddim yn newyddion da i'r brenin fod ei fab wedi marw.”

21Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica
18:21 AffricaHebraeg,  Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
, “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi ei weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe.
22Ond roedd Achimaats, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.” 23Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaats yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a pasio'r Affricanwr.

24Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a'r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun. 25A dyma fe'n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma'r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae'n rhaid bod ganddo newyddion.”

Ond wrth i'r rhedwr ddod yn agosach, 26dyma'r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe'n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma'r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.” 27Yna dyma'r gwyliwr yn dweud, “Dw i'n meddwl mai Achimaats fab Sadoc ydy'r rhedwr cyntaf.” A dyma'r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae'n dod â newyddion da.”

28Yna dyma Achimaats yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Bendith ar yr Arglwydd dy Dduw! Mae wedi trechu'r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!” 29A dyma'r brenin yn gofyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaats, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.”

30“Symud i'r ochr, a sefyll yna” meddai'r brenin. A dyma Achimaats yn gwneud hynny. 31Yna dyma'r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i'm meistr, y brenin! Mae'r Arglwydd wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.” 32A dyma'r brenin yn holi'r dyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe'n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy'n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!”

33Roedd y brenin wedi ypsetio'n lân. Aeth i fyny i'r ystafell uwchben y giât yn crïo, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.