2 Samuel 13
Amnon yn treisio Tamar
1Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn: Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. 2Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi. 3Roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma ▼▼13:3 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. 4Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.” 5Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.’” 6Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.” 7Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. 8A dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio. 9Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd. 10Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely. 11Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.” 12“Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. 13Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.” ▼▼13:13 Doedd priodas o'r fath ddim yn dderbyniol yn ôl y Gyfraith (Lefiticus 18:9,11; 20:17), er fod enghreifftiau yn gynharach yn hanes Israel (Genesis 20:12)
14Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio. 15Ond wedyn dyma fe'n dechrau ei chasáu hi go iawn. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!” 16Ond dyma Tamar yn ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. 17A dyma fe'n galw ei was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan, a chloi'r drws tu ôl iddi!” 18Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo.) 19Ond dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crïo'n uchel. 20A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon. 21Pan glywodd y brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy. 22Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar. Absalom yn dial ar Amnon
23Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor ▼▼13:23 Baal-chatsor Tua 15 milltir i'r gogledd o Jerwsalem
, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti. 24Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.” 25“Na, machgen i,” meddai'r brenin. “Ddown ni ddim i gyd, neu byddwn yn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn dymuno'n dda iddo. 26Ond wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.” “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” holodd y brenin. 27Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi parti digon da i frenin. ▼▼13:27 A dyma … i frenin Fel rhai llawysgrifau.
28Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” 29Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc. 30Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw. 31Felly cododd y brenin, rhwygo ei ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo eu dillad nhw hefyd. 32Ond dyma Jonadab (mab Shamma ▼▼13:32 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar. 33Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi eu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, 34a bydd Absalom wedi dianc.” Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. 35A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!” 36A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crïo'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crïo hefyd. 37Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon ▼▼13:37 Amnon Amnon oedd mab hynaf Dafydd, a'r un fyddai wedi ei olynu fel brenin.
am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai ▼▼13:37,38 Talmai Taid Absalom, sef tad ei fam. (gw. 3:3).
fab Amihwd, brenin Geshwr. 38Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd. 39Erbyn hynny roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac yn dechrau hiraethu am Absalom.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024