‏ 2 Kings 3

Rhyfel rhwng Israel a Moab

1Pan oedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg wyth o flynyddoedd, dyma Joram, mab Ahab, yn dod yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin am un deg dwy o flynyddoedd. 2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd. Ond doedd e ddim mor ddrwg â'i dad a'i fam. Roedd e wedi cael gwared â'r golofn gysegredig i Baal roedd ei dad wedi ei gwneud. 3Ond roedd yn dal i addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn gwrthod yn lân cael gwared â nhw.

4Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel – can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. 5Ond pan fu farw'r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel. 6Felly dyma'r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd. 7A dyma fe'n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?”

A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.” 8Yna dyma fe'n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.”

9Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a doedd ganddyn nhw ddim dŵr i'r milwyr na'r anifeiliaid oedd gyda nhw. 10“O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy'r Arglwydd wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?”

11Yna dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna un o broffwydi'r Arglwydd yma, i ni holi'r Arglwydd trwyddo?”

“Oes,” meddai un o weision Joram, “Eliseus fab Shaffat, oedd yn arfer helpu
3:11 helpu Hebraeg, “tywallt dŵr dros ddwylo”
Elias.”

12A dyma Jehosaffat yn dweud, “Mae e'n un sy'n deall meddwl yr Arglwydd.” Felly dyma frenin Israel, Jehosaffat a brenin Edom yn mynd i'w weld.

13Dyma Eliseus yn dweud wrth frenin Israel, “Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!” Ond dyma frenin Israel yn ateb, “Na, yr Arglwydd sydd wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni!”

14A dyma Eliseus yn ateb, “Yr Arglwydd holl-bwerus dw i'n ei wasanaethu. Mor sicr â'i fod e'n fyw, fyddwn i'n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat. 15Nawr dewch â rhywun sy'n canu'r delyn ata i.” Wrth i'r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr Arglwydd. 16A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’ 17Ie, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma'n llawn dŵr. Byddwch chi a'ch anifeiliaid yn gallu yfed.’ 18Mae'n beth mor hawdd i'r Arglwydd ei wneud. A byddwch chi'n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd. 19Dych chi i ddinistrio'r caerau amddiffynnol a'r trefi pwysig eraill i gyd. Dych chi i dorri'r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda pridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.”

20Y bore wedyn, tua'r adeg roedden nhw'n arfer cyflwyno aberth i'r Arglwydd, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman.

21Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw'n galw pawb oedd ddigon hen i gario arfau at ei gilydd, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin.

22Pan gododd byddin Moab y bore wedyn, roedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab. 23“Mae'n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu'r ysbail!”

24Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a'u taro. 25Dyma nhw'n dinistrio'r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau'n llawn cerrig. Dyma nhw'n llenwi pob ffynnon gyda phridd, a torri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma'r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd.

26Pan oedd brenin Moab yn gweld ei fod yn colli'r frwydr, dyma fe'n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri trwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e. 27Felly dyma fe'n cymryd ei fab hynaf, yr un oedd i fod yn frenin ar ei ôl, a'i losgi yn aberth ar ben y wal.

Trodd hi'n ffyrnig yn erbyn Israel, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i'r frwydr a mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.

Copyright information for CYM