(2 Cronicl 32:24-26; Eseia 38:1-8,21-22) 1Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”2Ond dyma Heseceia'n troi at y wal a gweddïo, 3“O Arglwydd, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.4Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r Arglwydd yn siarad gydag e. 5“Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr Arglwydd. 6Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”7Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”8Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr Arglwydd yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?” 9Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r Arglwydd yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’”10A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?” 11Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r Arglwydd yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.
Camgymeriad Heseceia
(Eseia 39:1-8; 2 Cronicl 32:32-33) 12Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl. 13Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!14Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw o wlad bell iawn – o Babilon.” 15Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”16A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr Arglwydd: 17‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r Arglwydd. 18‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”19Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr Arglwydd yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”20Mae gweddill hanes Heseceia, ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 21Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?