2 Kings 17
Hoshea, brenin Israel
1Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am naw mlynedd. 2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr Arglwydd, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r brenhinoedd oedd wedi bod o'i flaen. 3Dyma Shalmaneser, ▼▼17:3 Shalmaneser, brenin Asyria Shalmaneser V oedd hwn, Mab Tiglath-Pileser III. Roedd yn frenin Asyria o 727 i 722 CC
brenin Asyria, yn ymosod arno. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Assyria a dechrau talu trethi iddo. 4Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So ▼▼17:4 Osorcon IV (730–715 CC) o bosib.
, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar. Diwedd Teyrnas Israel
5Wedyn dyma frenin Asyria'n ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a bu'n gwarchae arni am bron ddwy flynedd ▼▼17:5 bron ddwy flynedd Hebraeg, “tair blynedd”, sy'n cyfrif yn y ffordd Hebreig. Gall olygu dim ond rhan fach o'r flwyddyn gyntaf a rhan fach o'r drydedd flwyddyn.
. 6Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria ▼▼17:6 brenin Asyria Sargon II, olynydd Shalmaneser, oedd brenin Asyria erbyn hyn. Buodd Shalmaneser farw ar ôl concro Samaria (722 CC) ond cyn i'r bobl gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion (720 CC). Roedd Sargon II yn teyrnasu ar Asyria o 721 i 705 CC, ac mae llawysgrifau hynafol o Asyria yn dweud ei fod wedi caethgludo 27,290 o bobl.
â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. 7Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i'r Arglwydd eu Duw – y Duw oedd wedi eu rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o'r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill 8a dilyn arferion y bobloedd roedd yr Arglwydd wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel. 9Roedden nhw'n gwneud pethau o'r golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr Arglwydd. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman – yn y pentrefi bychain a'r trefi caerog mawr. 10Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. 11Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr Arglwydd wedi eu gyrru allan o'u blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn gwneud i'r Arglwydd ddigio. 12Roedden nhw'n addoli eilunod ffiaidd er bod yr Arglwydd wedi dweud wrthyn nhw am beidio. 13Roedd yr Arglwydd wedi anfon proffwydi a'r rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, trwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadw fy ngorchmynion i a'r rheolau sy'n y Gyfraith rois i i'ch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi i'ch atgoffa chi ohonyn nhw.” 14Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n hollol benstiff, fel eu hynafiaid oedd yn gwrthod trystio'r Arglwydd eu Duw. 15Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau a'r ymrwymiad roedd wedi ei wneud gyda'u hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhw'n gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd o'u cwmpas, er fod yr Arglwydd wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny. 16Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr Arglwydd eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a codi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal. 17Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhw'n benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, a'i bryfocio. 18Roedd yr Arglwydd yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma fe'n eu gyrru nhw o'i olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl. 19Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr Arglwydd eu Duw. Roedden nhw'n dilyn arferion Israel. 20Roedd yr Arglwydd wedi gwrthod pobl Israel i gyd, a'u cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio a'u dinistrio nhw. Gyrrodd nhw o'i olwg yn llwyr. 21Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. A dyma fe'n arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr Arglwydd a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy. 22Dyma'r bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl. 23Felly dyma'r Arglwydd yn gyrru Israel allan o'i olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddai'n gwneud trwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud o'u gwlad eu hunain i Asyria. Maen nhw dal yno heddiw. Brenin Asyria yn symud pobl o wledydd eraill i Israel
24Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, a'u symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhw'n cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi. 25Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoli'r Arglwydd. Felly dyma'r Arglwydd yn anfon llewod atyn nhw, a dyma'r llewod yn lladd rhai pobl. 26Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy'r bobloedd rwyt ti wedi eu symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw'r wlad. Felly mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae'r rheiny yn eu lladd nhw.” 27A dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o'r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e'n gallu byw gyda nhw a'u dysgu nhw beth mae duw'r wlad yn ei ddisgwyl.” 28Felly dyma un o'r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn mynd yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu'r bobl sut i barchu'r Arglwydd. 29Ac eto roedd y gwahanol bobloedd yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw. 30Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima 31a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech. 32Ond roedden nhw'n addoli'r Arglwydd ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny. 33Felly roedden nhw'n addoli'r Arglwydd ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd – ac yn cadw defodau'r gwledydd o lle roedden nhw'n dod. 34Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r Arglwydd, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo. 35Roedd yr Arglwydd wedi gwneud ymrwymiad gyda nhw, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw. 36Dim ond fi, yr Arglwydd dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo. 37A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill. 38Peidiwch anghofio'r ymrwymiad wnes i gyda chi, a peidiwch addoli duwiau eraill. 39Fi, yr Arglwydd eich Duw dych chi i'w addoli, a bydda i'n eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.” 40Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion. 41Roedd y gwahanol grwpiau o bobl yma i gyd yn addoli'r Arglwydd ac yn gwasanaethu eu heilun-dduwiau ar yr un pryd. Ac mae eu plant a'u plant hwythau yn dal i wneud yr un fath â'u hynafiaid hyd heddiw.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024