1Ar ôl i'r brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel.2Tua'r un adeg dyma'r brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe'n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron, ▼
▼1:2 Ecron Un o bum tref y Philistiaid (gw. 1 Samuel 6:17), oedd tua 40 milltir i'r de-orllewin o Samaria.
os bydda i yn gwella o'r anaf yma.”3Ond roedd angel yr Arglwydd wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron? 4Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.5Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod y ôl?” 6A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’”7Yna dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Disgrifiwch y dyn i mi.”8A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin. 9A dyma fe'n anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Dyma'r capten yn dod o hyd i Elias yn eistedd ar ben bryn. A dyma fe'n mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”10Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.11Felly dyma'r brenin yn anfon capten arall gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”12Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a'i ladd e a'i filwyr.13Dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda pum deg o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma. 14Mae tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!” 15A dyma angel yr Arglwydd yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.16A dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Mae'r Arglwydd yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’”17A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud trwy Elias. Doedd ganddo ddim mab, felly dyma ei frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda.18Mae gweddill hanes Ahaseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?