‏ 2 Corinthians 8

Annog haelioni

1Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi ei rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia.
8:1 Macedonia: Yr eglwysi yn Philipi, Thesalonica a Berea mae'n debyg.
2Er eu bod nhw wedi bod trwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw'n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw'n anhygoel o hael! 3Dw i'n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw'n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw'u hunain, 4oedd yn pledio'n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem. 5Dyma nhw'n gwneud llawer mwy nag oedden ni'n ei ddisgwyl, trwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i'r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna'n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud! 6I hyn dw i'n dod: Dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith. 7Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd.

8Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy'ch cariad chi. 9A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!

10Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio â'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni. 11Mae'n bryd i chi orffen y gwaith. Dangoswch yr un brwdfrydedd wrth wneud beth gafodd ei benderfynu. Rhowch gymaint ag y gallwch chi. 12Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny'n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i'w roi! 13Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch. 14Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly. 15Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin.” b

Anfon Titus i Corinth

16Dw i'n diolch i Dduw fod gan Titus yr un consýrn amdanoch chi â sydd gen i. 17Mae e'n dod atoch chi dim yn unig am ein bod ni wedi gofyn iddo, ond am ei fod e'n frwd i wneud hynny ei hun – roedd e wir eisiau dod. 18Dŷn ni'n anfon gydag e frawd sy'n cael ei ganmol yn yr eglwysi i gyd am ei waith yn cyhoeddi'r newyddion da. 19Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem – rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun ac hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu. 20Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr fod neb yn gallu'n beirniadu ni am y ffordd dŷn ni wedi delio â'r rhodd hael yma. 21Dŷn ni am wneud beth sy'n iawn, dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd.

22Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd – un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi. 23Os oes cwestiwn yn codi am Titus – fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill – nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun. 24Felly dangoswch chi i'r dynion yma mor fawr ydy'ch cariad chi, a phrofi i'r eglwysi bod gynnon ni ddigon o le i fod yn falch ohonoch chi.

Copyright information for CYM