‏ 2 Corinthians 5

Ein cartref nefol

1Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun. 2Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol. 3A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. 4Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth. 5Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.

6Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. 7Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld. 8Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd! 9Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe. 10Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.

Llysgenhadon Duw

11Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd. 12Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon. 13Os ydyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi. 14Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. 15Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.

16Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. 17Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! 18A Duw sy'n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill. 19Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. 20Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! 21Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.

Copyright information for CYM