2 Corinthians 3
1Ydyn ni'n dechrau canmol ein hunain o'ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i'w gyflwyno i chi, a dŷn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith. 2Chi eich hunain ydy'n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen. 3Yn wir, mae'n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi – a'i fod wedi ei roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi ei ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl! 4Beth mae'r Meseia wedi ei wneud sy'n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw. 5Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd – Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng. 6Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd.Gogoniant y drefn newydd
7Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen). a 8Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol? 9Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw! 10Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar! 11Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros! 12Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus. 13Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb b rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd. 14Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd! 15Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae'r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw. 16Ac eto'r Gyfraith ei hun sy'n dweud, “Pan mae'n troi at yr Arglwydd, mae'r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” c 17Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae'r gair ‛Arglwydd‛; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. 18Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni'n troi'n fwy a mwy disglair o hyd. A'r Ysbryd Glân ydy'r Arglwydd sy'n gwneud hyn i gyd.
Copyright information for
CYM