2 Chronicles 8
Prosiectau adeiladu a llwyddiant Solomon
(1 Brenhinoedd 9:10-28) 1Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr Arglwydd a'r palas. 2Aeth ati i ailadeiladu'r trefi roedd Huram wedi eu rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno. 3Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-Soba, a'i choncro. 4Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a'r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath. 5Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau, 6hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad. 7Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 8(Roedd disgynyddion y bobl yma'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw. 9Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion. 10Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl. 11Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi ei adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel – achos mae ble bynnag mae Arch yr Arglwydd wedi bod yn gysegredig.” 12Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r Arglwydd ar yr allor roedd wedi ei chodi o flaen cyntedd y deml. 13Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn – bob dydd, ar bob Saboth, ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf ▼▼8:13 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”
a Gŵyl y Pebyll). 14Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd. 15Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall. 16Cafodd yr holl waith orchmynodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfaeni eu gosod nes roedd y deml wedi ei gorffen. Dyna sut cafodd teml yr Arglwydd ei hadeiladu. 17Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom. 18A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.
Copyright information for
CYM