2 Chronicles 5
1Wedi i Solomon orffen adeiladu'r deml i'r Arglwydd, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml Dduw.Symud yr Arch i'r deml
(1 Brenhinoedd 8:1-9) 2Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr Arglwydd i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. 3Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis. ▼▼5:3 seithfed mis Ethanim, seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref.
4Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch. 5A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. 6Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! 7A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid. 8Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. 9Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. 10Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. ▼▼5:10 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai
Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr Arglwydd wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft. 11Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain. 12Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion – Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr – yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn. 13Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r Arglwydd. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r Arglwydd a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
Tra roedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml. 14Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda'i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr Arglwydd yn llenwi Teml Dduw.
Copyright information for
CYM