2 Chronicles 25
Amaseia yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 14:2-6) 1Roedd Amaseia'n ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. 2Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd, er, doedd e ddim yn hollol ffyddlon. 3Wedi iddo wneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin. 4Ond wnaeth e ddim lladd eu plant nhw, am mai dyna oedd sgrôl Moses yn ei ddweud. Dyma'r gorchymyn oedd yr Arglwydd wedi ei roi: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu tadau. Y troseddwr ei hun ddylai farw.” ▼▼25:4 Deuteronomium 24:16
Rhyfel yn erbyn Edom
(2 Brenhinoedd 14:7) 5Dyma Amaseia'n casglu dynion Jwda at ei gilydd a rhoi trefn ar ei fyddin drwy benodi capteniaid ar unedau o fil a capteiniaid ar unedau o gant, a gosod teuluoedd Jwda a Benjamin yn yr unedau hynny. Dyma fe'n cyfrif y rhai oedd yn ddau ddeg oed neu'n hŷn, ac roedd yna 300,000 o ddynion da yn barod i ymladd gyda gwaywffyn a thariannau. 6Talodd dros dair mil cilogram o arian i gyflogi can mil o filwyr o Israel hefyd. 7Ond daeth proffwyd ato a dweud, “O Frenin, paid mynd â milwyr Israel allan gyda ti. Dydy'r Arglwydd ddim gyda Israel, sef dynion Effraim. 8Hyd yn oed os byddi'n ymladd yn galed, bydd Duw yn gadael i dy elynion ennill y frwydr. Mae Duw yn gallu helpu byddin a threchu byddin.” 9“Ond dw i wedi talu arian mawr i fyddin Israel – dros dair mil cilogram o arian,” meddai Amaseia. A dyma'r proffwyd yn ateb, “Mae'r Arglwydd yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.” 10Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân. 11Yna dyma Amaseia'n magu plwc ac arwain ei fyddin i ryfel yn Nyffryn yr Halen, a lladd deg mil o filwyr Edom. 12Roedden nhw wedi dal deg mil arall yn fyw. Dyma nhw'n eu harwain i ben clogwyn a'u gwthio dros yr ymyl, a cawson nhw i gyd eu lladd ar y creigiau islaw. 13Yn y cyfamser dyma'r milwyr oedd Amaseia wedi eu hanfon adre yn ymosod ar drefi Jwda rhwng Samaria a Beth-choron. Cafodd tair mil o bobl eu lladd ganddyn nhw a dyma nhw'n dwyn lot fawr o ysbail. 14Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn byddin Edom, dyma Amaseia'n dod â'u duwiau nhw gydag e. Gwnaeth nhw'n dduwiau iddo'i hun, a'u haddoli a llosgi arogldarth o'u blaen. 15Roedd yr Arglwydd yn ddig gydag Amaseia a dyma fe'n anfon proffwyd ato gyda'r neges yma, “Pam wyt ti'n troi at y duwiau yma oedd yn methu achub eu pobl eu hunain o dy afael?” 16Ond dyma Amaseia yn torri ar ei draws. “Ydw i wedi dy benodi di yn gynghorwr brenhinol? Cau dy geg! Neu bydda i'n gorchymyn i ti gael dy ladd!” Dyma'r proffwyd yn stopio, ond yna ychwanegu, “Bydd Duw yn dy ladd di am wneud hyn a peidio gwrando arna i.”Rhyfel yn erbyn Israel
(2 Brenhinoedd 14:8-20) 17Yna dyma Amaseia, brenin Jwda, yn derbyn cyngor ei gynghorwyr, ac yn anfon neges at Jehoas brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.” 18Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed!19Ti'n dweud dy fod wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant nawr ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
20Ond doedd Amaseia ddim am wrando. (Duw oedd tu ôl i'r peth – roedd e am i'r gelyn eu gorchfygu nhw am eu bod nhw wedi mynd ar ôl duwiau Edom). 21Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda. 22Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre. 23Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ag e i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr. 24Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml dan ofal Obed-Edom. Cymerodd drysorau'r palas hefyd, a gwystlon, cyn mynd yn ôl i Samaria. 25Cafodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw. 26Mae gweddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gael yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. 27Pan wnaeth e droi cefn ar yr Arglwydd dyma rhywrai yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno. 28Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
Copyright information for
CYM