agw. Genesis 2:7,21-22
bgw. Genesis 3:1-6

‏ 1 Timothy 2

Addoliad Cywir

1O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. 2Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. 3Mae gweddïo felly yn beth da i'w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi'n hachub ni. 4Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir. 5Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn. 6Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. 7A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!

8Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau.

9A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig, 10ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.

11Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr. 12Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. 13Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa. a 14A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu. b 15Ond byddai hi'n cael ei hachub drwy'r plentyn oedd i'w eni. Dylen nhw ddal ati i gredu, dangos cariad, byw bywydau glân a bod yn ddoeth.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.