‏ 1 Thessalonians 4

Byw i blesio Duw

1Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy. 2Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni'n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun:

3Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy'n anfoesol yn rhywiol. 4Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol – 5yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt. 6Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol – dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen. 7Mae Duw wedi'n galw ni i fyw bywydau glân, dim i fod yn fochaidd. 8Felly mae unrhyw un sy'n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy'n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy'r rhain!

9Ond does dim rhaid i mi ddweud unrhyw beth am y cariad mae Cristnogion i'w ddangos at ei gilydd. Mae'n amlwg fod Duw ei hun – neb llai – wedi'ch dysgu chi i wneud hynny. 10Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy.

11Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi. 12Wedyn bydd pobl sydd ddim yn credu yn parchu'r ffordd dych chi'n byw, a fydd dim rhaid i chi ddibynnu ar neb arall i'ch cynnal chi.

Pan fydd yr Arglwydd yn dod yn ôl

13A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru – does ganddyn nhw ddim gobaith. 14Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl. 15Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw. 16Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. 17Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth. 18Felly calonogwch eich gilydd gyda'r geiriau hyn.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.