1Roedd Arch yr Arglwydd wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis. 2A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr Arglwydd? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.”3Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e eich cosbi chi.”4“Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi eich taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a pump model o'r llygod 5sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad. 6Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? a Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd! 7Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt. 8Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd 9a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh ▼
▼6:9 Beth-shemesh Tua 14 milltir i'r gorllewin o Jerwsalem.
, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”10A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'i clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt. 11Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo. 12A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh.13Roedd pobl Beth-shemesh yn y dyffryn yn casglu'r cynhaeaf gwenith. ▼
Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau. 14Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi yn offrwm i Dduw. 15Daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. Ar y diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r Arglwydd. 16Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod.17Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r Arglwydd: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron. 18Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd. Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw.
Symud yr Arch i Ciriath-iearim
19Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr Arglwydd, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ▼
▼6:19 saith deg Dyna sydd yn rhai llawysgrifau Hebraeg, ond mae'r mwyafrif yn dweud 50,070
ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi eu taro nhw mor galed. 20“Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr Arglwydd, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?”21Felly dyma nhw'n anfon neges i Ciriath-iearim, “Mae'r Philistiaid wedi anfon Arch yr Arglwydd yn ôl. Dewch i lawr i'w chymryd hi'n ôl.”
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?