1Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r Arglwydd gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra roedd Eli'n cysgu yn ei ystafell. 3Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw. 4Dyma'r Arglwydd yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,” 5yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.” Ond dyma Eli'n ateb, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd.6Dyma'r Arglwydd yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.” “Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.” 7(Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr Arglwydd. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.)8Galwodd yr Arglwydd ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.” Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r Arglwydd oedd yn galw'r bachgen. 9A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada Arglwydd, mae dy was yn gwrando.’” Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr. 10A dyma'r Arglwydd yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”11A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth. 12Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano – popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu – yn mynd i ddod yn wir! 13Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth ▼
. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw. 14A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”15Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr Arglwydd. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth. 16Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.” A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”17A dyma Eli'n gofyn iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!”18Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr Arglwydd ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”19Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir. 20Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba ▼
▼3:20 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i'r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i'r Aifft.
yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd.21Roedd yr Arglwydd yn dal i ymddangos i Samuel yn Seilo, ac yn rhoi negeseuon iddo yno.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?