1 Samuel 17
Goliath yn herio byddin Israel
1Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca. ▼▼17:1 Socho ac Aseca Roedd Socho ar diriogaeth pobl Israel, ac Aseca yn yr ardal oedd y Philistiaid yn ei rheoli. Tua 18 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.
2Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn eu rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid. 3Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a'r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda'r dyffryn rhyngddyn nhw. 4Daeth milwr o'r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio'r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! 5Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram, 6a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwyddau. 7Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario ei darian o'i flaen. 8Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam ydych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi! 9Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.” 10Gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!” 11Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn, dyma nhw'n dechrau panicio, ac roedd ganddyn nhw ofn go iawn. Jesse yn anfon Dafydd i wersyll Israel
12Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a pan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a parch mawr iddo. 13Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i'r rhyfel. 14Dafydd oedd mab ifancaf Jesse. Tra roedd y tri hynaf ym myddin Saul 15byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem. 16(Yn y cyfamser roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.) 17Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid ▼▼17:17 sachaid Hebraeg, Effa, sef tua 10 cilogram
o rawn wedi ei grasu a deg torth iddyn nhw. 18A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.” 19Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid. 20Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!” 21Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd. 22Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes. 23Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e. 24Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn. 25Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi wedi gweld y dyn yma sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio bobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd e'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.” 26Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yma o Philistiad yn meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?” 27A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd y wobr i bwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw. 28Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.” 29“Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.” 30A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen. Dafydd yn lladd Goliath
31Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul. A dyma Dafydd yn cael ei alw ato. 32Dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!” 33“Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” 34Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd. 35Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd. 36Syr, dw i wedi lladd llew ac arth. A bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! 37Bydd yr Arglwydd, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r Arglwydd fo gyda ti.” 38Yna dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano. 39Wedyn dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai fe wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd. 40Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law. 41Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda'i was yn cario'i darian o'i flaen. 42Pan welodd e Dafydd roedd e'n wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg. 43A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau, 44a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion!” 45Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr Arglwydd holl-bwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio. 46Heddiw bydd yr Arglwydd yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. 47A bydd pawb sydd yma yn dod i weld fod yr Arglwydd ddim yn achub gyda chleddyf a gwaywffon. Brwydr yr Arglwydd ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” 48Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod. 49Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. 50(Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) 51Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi. 52A dyma fyddin Israel a Jwda yn rhuthro ymlaen gan weiddi “I'r gâd!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd ar hyd y ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron. 53Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll. 54(Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.) 55Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ▼▼17:55 Dw i wir Hebraeg, “mor sicr â dy fod ti'n fyw”
ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner. 56A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.” 57Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl wedi lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law. 58A dyma Saul yn gofyn iddo, “Mab i bwy wyt ti, machgen i?” Atebodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024