1 Kings 8
Solomon yn symud Arch Duw i'r Deml
(2 Cronicl 5:2—6:2) 1Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr Arglwydd i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. 2Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll ym Mis Ethanim (sef y seithfed mis). ▼▼8:2 seithfed mis Ethanim, seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref.
3Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r offeiriaid yn codi'r Arch. 4A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. 5Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! 6A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid. 7Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. 8Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell oedd o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. 9Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen garreg roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. ▼▼8:9 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai
Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr Arglwydd wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. 10Wrth i'r offeiriaid ddod allan o'r Lle Sanctaidd dyma gwmwl yn llenwi Teml yr Arglwydd. 11Roedd yr offeiriaid yn methu gwneud eu gwaith oherwydd y cwmwl. Roedd ysblander yr Arglwydd yn llenwi ei Deml. 12Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r Arglwydd yn dweudei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.
13‘Arglwydd, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti,
lle i ti fyw ynddo am byth.’”
Solomon yn annerch y bobl
(2 Cronicl 6:3-11) 14Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: 15“Bendith ar yr Arglwydd, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: 16‘Ers i mi ddod â'm pobl Israel allan o'r Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. Ond gwnes i ddewis Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ 17Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r Arglwydd, Duw Israel. 18Ond dwedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da. 19Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’ 20A bellach mae'r Arglwydd wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r Arglwydd, Duw Israel. 21Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr Arglwydd gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.”Solomon yn gweddïo yn y Deml
(2 Cronicl 6:12-42) 22Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr, 23a gweddïo, “O Arglwydd, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. 24Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. 25Nawr, Arglwydd, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i mi fel rwyt ti wedi gwneud.’ 26Felly nawr, O Dduw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.27Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu? 28Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O Arglwydd fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti heddiw. 29Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’ Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
30Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni.
31Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, 32yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu.
33Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma 34yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a tyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi i'w hynafiaid.
35Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw 36yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bob Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y wlad yma rwyt ti wedi ei rhoi i dy bobl ei chadw.
37Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem, 38gwrando di ar bob gweddi. Gwrando pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei faich o dy flaen di. 39Gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Ti'n deall pobl i'r dim, felly rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) 40Fel yna byddan nhw'n dy barchu di tra byddan nhw'n byw yn y wlad rwyt ti wedi ei roi i'w hynafiaid.
41A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti. 42Byddan nhw wedi clywed am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo, 43gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi ei hadeiladu i dy anrhydeddu di.
44Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas rwyt ti wedi ei dewis a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti Arglwydd, 45yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
46Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. 47Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ 48Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti. 49Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. 50Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi eu concro nhw eu trin nhw'n garedig. 51Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn. c
52Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti. 53Achos rwyt ti wedi eu dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti trwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, Arglwydd.”
54Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r Arglwydd, dyma fe'n codi ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr Arglwydd a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd. 55Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel: 56“Bendith ar yr Arglwydd! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e trwy Moses ei was. 57Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni. 58Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid. 59Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen. 60Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r Arglwydd ydy'r unig Dduw go iawn – does dim duw arall. 61Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r Arglwydd ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.”
Solomon yn cysegru'r Deml
(2 Cronicl 7:4-10) 62Roedd y brenin, a pobl Israel i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r Arglwydd. 63Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r Arglwydd. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r Arglwydd. 64Ar y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr Arglwydd. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr Arglwydd yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. 65Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu ac yn cadw Gŵyl i'r Arglwydd ein Duw am bythefnos lawn. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de. 66Y diwrnod wedyn, dyma fe'n anfon y bobl adre. Dyma nhw'n bendithio'r brenin a mynd adre'n hapus, am fod yr Arglwydd wedi gwneud cymaint o bethau da i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024